Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Timau Echwaraeon Coleg yn Curo eu Cymheiriaid yn America fel Rhan o Ddiwrnod Chwaraeon y Byd

Curodd Myfyrwyr o ddau o dimau chwaraeon Coleg Llandrillo, Grwp Llandrillo Menai, eu cymheiriaid o'r UD mewn cyfarfyddiadau cyffrous fel rhan o fenter Diwrnod Echwaraeon y Byd.

Cymerodd timau echwaraeon "Dragon Hydras" a "Drakes" y coleg ran mewn digwyddiad ffrydiad-byw mewn partneriaeth gyda'r British Esports Association, fel rhan o ddigwyddiad elusennol Diwrnod Echwaraeon y Byd.

Wynebodd myfyrwyr Cyfrifiaduro Llandrillo ddwy ysgol wahanol o'r Garden State Esports League, New Jersey - Centre School a Barnegat High School - yn fyw ar T witch, gan ennill y ddwy gem dynn!

Chwaraeasant dau o'r teitlau echwaraeon mwyaf yn ystod eu brwydrau ar-lein: Overwatch a Valorant Roedd yna un castiwr Prydeinig (term gemau cyfrifiadurol ar gyfer sylwebydd ar ddigwyddiad byw) ac un castiwr o'r Unol Daleithiau ar gyfer pob gem sioe yn y digwyddiad.

Dywedodd un o gapteiniaid tîm Coleg Llandrillo a'r "chwaraewr arbennig", Mitch Thomas, 19 oed o Gonwy - sy'n astudio ar y cwrs Diploma Sylfaen Cenedlaethol - Echwaraeon Lefel 3: "Dyna brofiad arbennig: nid yn unig y cawsom gyfle i chwarae yn erbyn timau o'r Unol Daleithiau, ond fe lwyddon ni i ddod yn fuddugol yn y ddwy gêm.

"Dyma un o'r pethau mawr cyntaf y mae echwaraeon Prydeinig wedi ei drefnu yn erbyn yr Unol Daleithiau. Roedd yn wych i weld myfyrwyr Cyfrifiaduro Coleg Llandrillo yn dod yn rhan o ddigwyddiad o gymaint o fri."

Roedd Echwaraeon Cymru a'r Garden State Esports League yn wynebu her logisteg o ganlyniad i'r pum awr o wahaniaeth amser. Felly, i ateb gofynion eu cymheiriaid yn yr Unol Daleithiau, bu'n rhaid i'r myfyrwyr ar gampws Llandrillo-yn-Rhos aros hyd yn hwyr yn y prynhawn i frwydro.

Roedd Coleg Llandrillo yn un o ddim ond dau goleg a ddewiswyd i gynrychioli Cymru gan y British Esports Association. Y llall oedd Coleg Gwyr Abertawe.

Roedd y digwyddiad yn cefnogi COVAX, sydd yn gweithio ar gyfer mynediad teg yn fyd-eang i frechlynnau COVID-19. I wybod mwy, ac i roi, ewch i https://worldesportsday.com/donate/.

Yn gynharach eleni i gyfarfod gyda galw anferthol, cyhoeddodd Coleg Llandrillo y byddai yn cynnig yr hyn sy'n cyfateb i Lefel -A mewn echwaraeon. Addysgir dysgwyr o fewn yr Ystafelloedd Rhith Wirionedd o'r radd flaenaf ar gampws Llandrillo-yn Rhos y grwp coleg.

Mae Esports yn rhan o ddiwydiant byd-eang sy'n werth biliynau ac sydd heb rwystrau ffisegol, a bydd y cymhwyster arloesol hwn yn cynnig rhagolygon gyrfaol real i fyfyrwyr yn y farchnad gynyddol yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ennill mynediad i ddiwydiannau byd-eang yn yr Unol Daleithiau, Asia ac Ewrop! Fel cyd-berchennog busnes echwaraeon, mae hyd yn oed David Beckham wedi dod yn rhan o'r fenter!

Mae adran Datblygu Chwaraeon Coleg Llandrillo wedi cael ychydig flynyddoedd anhygoel, wedi sicrhau partneriaethau gyda rhai o frandiau electroneg a gemau electronig mwyaf llwyddiannus y byd. Fe'i cofrestrwyd fel datblygwyr Xbox a Nintendo, sydd yn dro cyntaf o bosib i hyn ddigwydd i unrhyw goleg neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig! Yn dilyn hyn , mae nawr yn rhan o raglen academaidd byd-eang Sony Interactive Entertainment - PlayStation®First.

Yn ychwanegol, cafodd tiwtor Datblygu Gemau Coleg Llandrillo sydd wedi ennill BAFTA, ac a gyflwynwyd eleni gyda "Gwobr Academaidd Addysg Bellach" o fri eleni am ei fentrau arloesol ym myd datblygu gemau a chyfrifiaduro, ei benodi yn ddiweddar fel cyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Echwaraeon Cymru, y corff cenedlaethol ar gyfer echwaraeon yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth ar gyrsiau'r coleg mewn Datblygu gemau, neu gyrsiau Cyfrifiadura yn gyffredinol, galwch dim Gwasanaethau Dysgwyr y coleg ar 01492 542 338.