Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ymweliad y fyddin yn helpu myfyrwyr i feithrin perthynas

Bu dysgwyr Coleg Llandrillo yn gweithio gyda'i gilydd i groesi 'tir peryglus' pan ddaeth tîm ymgysylltu’r Fyddin Yng Nghymru i ymweld â champws Llandrillo-yn-Rhos

Yn ddiweddar daeth tîm ymgysylltu'r Fyddin Yng Nghymru i ymweld Choleg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos i ysbrydoli dysgwyr gyda gweithgareddau adeiladu tîm a datrys problemau.

Cafodd dysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 gyflwyniad ar gyfleoedd gyrfa yn y Fyddin, cyn mynd i’r meysydd chwaraeon 3G am sesiwn awyr agored ymarferol.

Roedd hyn yn cynnwys croesi 'tir peryglus' heb gyffwrdd â'r ddaear, gan weithio mewn timau i sicrhau fod eu grŵp cyfan yn croesi drwy ddefnyddio blociau a phlanciau.

Cwblhaodd y myfyrwyr hefyd weithgaredd STEM gan adeiladu car o git, gweithio mewn grwpiau i symud teiars wedi'u rhifo ar gonau, a phrofi eu hamseroedd ymateb trwy dapio botymau wrth iddynt oleuo.

Roedd y sesiwn yn annog myfyrwyr i gydweithio a bondio fel tîm, gan adlewyrchu egwyddorion ymarfer adferol lle mae myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu a’u gwytnwch wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gyda’i gilydd.

Dywedodd Catherine Farmer, Arweinydd Rhaglen Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 2: " Roedd y myfyrwyr yn hollol wych. Roeddent yn cymryd rhan ym mhob gweithgaredd ac yn gweithio'n dda yn eu timau. Roeddent yn sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys a'u gwerthfawrogi o fewn eu grŵp.

“Roeddent yn gwrtais ac yn ymgysylltu â phersonél y fyddin, gan roi cipolwg iddynt o'u cwrs a’u dyheadau. Roeddent yn glod i'r coleg ac iddyn nhw eu hunain, ac adroddodd staff y Fyddin yn ôl pa mor gwrtais oedd pob myfyriwr.

“Roedd y sesiynau’n gyfle i roi eu gwybodaeth am sgiliau cyfathrebu da ar waith a hefyd i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol. Roedd yn ddiweddglo hyfryd i’r hanner tymor cyntaf.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Bydd nosweithiau agored yn cael eu cynnal ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ystod mis Tachwedd - i gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.