Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn gweithio ar noson ymladd MMA a ffrydiwyd i filiynau o danysgrifwyr UFC

Dysgwyr Gradd Sylfaen yn y Cyfryngau Creadigol a Darlledu o Goleg Llandrillo yn gweithio ar APFC 8 a ddarlledwyd yn fyw ledled y byd gyda chyn-bencampwr ysgafn UFC, Anthony Pettis

Yn ddiweddar, gwnaeth myfyrwyr Cyfryngau Creadigol o Goleg Llandrillo weithio ar ddigwyddiad crefft ymladd gymysg (MMA) byw a ddarlledwyd i filiynau o gefnogwyr UFC.

⁠Teithiodd Deborah Kelty, Josh Taylor, Aaron Boylan a Rowan Snow i Fanceinion i weithio ar APFC 8, a gyflwynwyd gan gyn-bencampwr pwysau ysgafn yr UFC, Anthony Pettis. ⁠

Helpodd y myfyrwyr i osod yr offer darlledu a chysgodi gweithredwyr camera yn ystod y digwyddiad, a gafodd ei ffrydio'n fyw i danysgrifwyr UFC Fight Pass ym mhob rhan o'r byd.

Roedd yn brofiad gwaith amhrisiadwy i’r dysgwyr, sydd i gyd yn ail flwyddyn eu Gradd Sylfaen Lefel 5 yn y Cyfryngau Creadigol a Darlledu ar gampws y Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos. ⁠

Dywedodd Deborah: “Roedd yn brofiad cyffrous iawn. Cysgodi gweithwyr eraill oeddem ni'n bennaf, felly roeddem ni’n helpu'r criw i osod yr offer. Un o fy swyddi i oedd gosod yr holl offer ar fwrdd y sylwebwyr, ac roedd cwpl o’n nghyd-ddisgyblion yn helpu i gysgodi gweithwyr oedd yn ffilmio'r prif ddigwyddiad.

“Mi ddysgais i lawer o ran gweithio mewn tîm, ac aros yn effro ac yn llawn cymhelliant a bod yn y foment yn ystod digwyddiad hir. Rydw i eisiau gweithio ym myd ffilm a theledu, felly roedd yn ddefnyddiol iawn cael profiad o weithio ar ddigwyddiad byw, a gwybod sut i baratoi ar ei gyfer digwyddiad o'r fath yn y dyfodol.”

Meddai Josh: “Mi wnes i fwynhau’r profiad yn arw. Rydw i eisiau mynd i fyd darlledu chwaraeon ac yn ddelfrydol cyfarwyddo chwaraeon byw, felly roedd cael cipolwg ar sut mae popeth yn gweithio mewn gwirionedd yn brofiad da iawn i mi.

“I mi, prif fudd y cwrs hwn ydy gwneud lleoliadau profiad gwaith – nid dim ond aros yn y coleg, ond mynd allan a gwneud pethau. Mae’n well cael profiad mewn amgylchedd gwaith.”

Dywedodd James Lehart, Arweinydd Rhaglen Cyfryngau Creadigol AU yng Ngholeg Llandrillo, fod lleoliadau gwaith fel hyn yn rhoi mantais hollbwysig i fyfyrwyr yn y farchnad swyddi. Meddai: “Gwnaeth y myfyrwyr yn arbennig o dda, yn enwedig o ystyried yr amgylchedd prysur.

“Mae llawer o bobl yn cwblhau prosiectau myfyrwyr tra yn y Brifysgol. Ond, mae'r criw yma wedi cael profiad o weithio ar rywbeth sydd wedi'i ddarlledu go iawn, sy'n hynod o bwysig yn fy marn i.

“Mae gen i gefndir mewn digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau byw, felly mae trefnu ychydig o brofiadau i’r myfyrwyr drwy’r cysylltiadau sydd gen i yn y diwydiant yn fuddiol iddyn nhw gan eu bod nhw'n dysgu cymaint mwy wrth weithio.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Cyfryngau, Teledu a Ffilm yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Bydd nosweithiau agored yn cael eu cynnal ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ystod mis Tachwedd. I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau agored, cliciwch yma.