Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hollie, sy’n gyn-fyfyriwr, yn ysgrifennu llyfr i blant yn ystod triniaeth canser

Mae Hollie McFarlane, sy’n gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, wedi ysgrifennu llyfr i blant. Gwnaeth hyn tra’i bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron er mwyn helpu ei merch ifanc i ymdopi â'r hyn oedd yn digwydd.

Derbyniodd Hollie McFarlane, sy’n wreiddiol o Bwllheli ond sydd bellach yn byw gyda’i gŵr a’i merch yn Wrecsam, ei diagnosis fis Hydref diwethaf.

Dywedodd Hollie iddi benderfynu ysgrifennu’r llyfr er mwyn ceisio esbonio i’w merch, pam ei bod hi’n treulio mwy a mwy o amser yn y gwely, oherwydd ei salwch.

Ysgrifennodd Hollie, sy'n athrawes yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Saltney, y rhan fwyaf o'r llyfr o’i gwely, un frawddeg ar y tro, yn ystod cyfnodau pan nad oedd hi'n sâl o effeithiau’r cemotherapi. Ar ôl pedwar mis a sawl newid, roedd y llyfr yn barod i'w argraffu.

Dywedodd Hollie: "Pan wnaethon nhw roi'r diagnosis i mi wyth mis yn ôl, y peth cyntaf ddaeth i’m meddwl oedd beth oeddwn i’n mynd i’w ddweud wrth fy merch, Sydney, a oedd ond yn dair oed ar y pryd.

“Ar y dechrau ceisiais gelu’r peth oddi wrthi, ond dyw plant ddim yn dwp, a buan iawn roedd hi'n gwybod bod rhywbeth o'i le. Roeddwn wedi mynd o fod yn fam egnïol iawn oedd yn gwneud pethau gyda hi i orwedd yn y gwely, yn sâl iawn.”

Derbyniodd Hollie chwe rownd o gemotherapi, ac yn ystod y cyfnod yma sylwodd nad oedd fawr ddim wedi ei ysgrifennu i blant am y pwnc. Pwnc sydd yn effeithio miloedd o deuluoedd yng Nghymru pob blwyddyn.

Mae copïau o’r llyfr bellach ar gael yn y Gymraeg, ‘Weithiau, mae mam yn teimlo...’ ac yn Saesneg, ‘Sometimes, mummy feels...’ yn eich siopau llyfrau lleol, neu ar-lein, gyda holl elw gwerthiant y llyfr yn mynd tuag at elusen canser Macmillan.