Myfyrwyr Lefel A yn Mwynhau Ymweliad Theatr y Goleudy
Mynychodd myfyrwyr a staff Coleg Meirion Dwyfor berfformiad o The Many Lives of Amy Dillwyn’ nos Iau 10 Mawrth 2022 yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Cefnogwyd yr ymweliad gan Fenter Gaeaf Lles sy’n annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol. Mae gan yr adran Saesneg yn y Coleg berthynas hir gyda The Lighthouse Theatre sydd yn aml yn cynnig gweithdai i fyfyrwyr y coleg.
Cafwyd sgwrs gan gyd-gyfarwyddwyr y sioe, Sonia Beck ac Adrian Metcalfe cyn y sioe am y broses ysgrifennu.
Dywedodd Carys Hind, myfyrwraif Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli
“Roedd y sgwrs cyn y sioe yn wych, a mi wnes i fwynhau’r ddrama’n fwy ar ôl clywed y drafodaeth ar sut yr ysgrifennwyd y ddrama o lythyrau a dyddiaduron Amy Dillwyn.”
Roedd gan Jacob Bruce , myfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli.
“Roedd o ddiddordeb mawr i mi cael cipolwg ar fywyd rhywun nad oeddwn erioed wedi clywed amdani o’r blaen.”
Cyflwynwyd y myfyrwyr i fywyd hynod ddiddorol Miss Elizabeth Amy Dillwyn a oedd yn nofelydd, yn sosialwr, yn swffragist ac yn ddynes busnes llewyrchus.
Ychwanegodd Jacob Bruce, myfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli.
“Mi wnes i fwynhau dysgu sut roedd yr actor yn dangos treigl amser ac roeddwn i'n hoffi'r modd yr oedd hi'n defnyddio’r synhwyrau i greu mwy nac un cymeriad, mewn sioe un person.”
Dywedodd Sam Paice, myfyrwraig Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli
“Mi wnes i fwynhau’r ymweliad yn fawr, dyma'r tro cyntaf i mi weld cynhyrchiad byw ar tro cyntaf i mi ymweld a Neuadd Dwyfor ers dros 2 flynedd.”
Dywedodd Ceridwen Price Swyddog Celfyddydau Creadigol Neuadd Dwyfor
‘Rydym bob amser yn edrych ymlaen at groesawu Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli. Roedd yn bleser eu cael yn y gynulleidfa ar gyfer ein sioe agoriadol The Many Lives of Amy Dillwyn ac yn ogystal ar gyfer sgwrs arbennig cyn y sioe gyda’r cast. Rydym yn gyffrous i barhau i weithio gyda’r coleg ac yn edrych ymlaen at weld y myfyrwyr yn dychwelyd yma ar gyfer eu hymarferion Drama yn fuan!
Rydym yr un mor gyffrous am y Sioe Gerdd ac yn edrych ymlaen at glywed pa gynhyrchiad y byddant yn dewis ei berfformio yn 2022. Gobeithio y bydd llawer mwy o ymweliadau â theatr fyw yn y dyfodol.'
I ddysgu mwy am ddarpariaeth lefe A y coleg, cliciwch ar y linc isod.