Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr o Goleg Menai'n ennill Cân i Gymru 2022

Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Menai wedi ennill y brif gystadleuaeth cyfansoddi cân a geir yng Nghymru.

Roedd Rhydian Meilir o Gemaes, ger Machynlleth, yn fyfyriwr ar y cwrs Technoleg Cerdd yng Ngholeg Menai rhwng 2003 a 2005.

Mae Cân i Gymru'n gystadleuaeth flynyddol y gall unrhyw un gystadlu ynddi ac fe'i darlledir ar S4C. Eleni, cyflwynwyd cant namyn un o ganeuon a chafodd criw sy'n arbenigo yn y maes y gwaith caled o chwynnu’r rhain i lawr i wyth cân. Perfformiwyd yr wyth cân yn fyw ar raglen Cân i Gymru, a ddarlledwyd o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, gyda'r gwylwyr yn ffonio i bleidleisio dros eu hoff gân.

Mae cân Rhydian, sef 'Mae yna Le', yn deyrnged i harddwch byd natur. Ryland Teifi, y canwr a'r cyfansoddwr ac enillydd gwobr BAFTA Cymru, oedd yn canu'r gân. Yna, yn dilyn y bleidlais gyhoeddus, dyfarnwyd tlws Cân i Gymru, a gwobr o £5,000, i Rhydian.

Nid dyma oedd y tro cyntaf i Rhydian gystadlu ar Cân i Gymru; cyrhaeddodd ei ganeuon y rhestr fer yn 2012 a 2019 ac ef oedd cyfansoddwr dwy o'r wyth cân a gyrhaeddodd rownd derfynol 2020.

Meddai Rhydian: “Mae ennill o'r diwedd yn deimlad emosiynol iawn. Doedd gen i ddim disgwyliadau o gwbl, ond ro'n i wir am roi cynnig arall arni ... allwch chi ddim cael fy ngwared i! Mi wnes i fwynhau'r holl ganeuon; roedd heno fel cyngerdd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs Cerdd, neu unrhyw gwrs arall yng Ngholeg Menai, ewch i: www.gllm.ac.uk