Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Staff a myfyrwyr y Grŵp yn Cefnogi'r Ymgyrch Ddyngarol yn Wcráin

Mae staff a myfyrwyr caredig o Grŵp Llandrillo Menai – grŵp colegau addysg bellach mwyaf Cymru – yn ymuno yn yr ymdrech ddyngarol i gefnogi Wcráin mewn nifer o ffyrdd arloesol.

Yn ystod y dyddiau a'r wythnosau ers i'r rhyfel ddechrau, mae staff a dysgwyr ar draws campysau Grŵp Llandrillo Menai wedi rhoi nifer o gynlluniau ar waith i gynorthwyo trigolion y wlad.

Ar gampws Llandrillo-yn-Rhos yr wythnos hon, mae baner Wcráin wedi bod yn hedfan i gefnogi'r rhai y mae'r argyfwng yn effeithio arnynt.

Ar y campws hefyd bydd criw o fyfyrwyr Datblygu Gemau yn aros ar eu traed drwy'r nos i gwblhau ffrwd ddi-stop o e-chwaraeon. Bydd y digwyddiad yn dechrau ar 24 Mawrth ac yn gorffen 24 awr yn ddiweddarach. Bydd yr arian a gesglir yn mynd at elusen ryngwladol y Groes Goch. Pob lwc i Carlton, Leon, Noah, Thomas, Liam... a Rob y tiwtor.

Dosbarthodd 30 o ddysgwyr y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 ar gampws Y Rhyl focsys yn llawn eitemau hanfodol i fan casglu dynodedig yr wythnos hon. Roedd y bocsys yn cynnwys cewynnau, eitemau ar gyfer mislif ac eitemau ymolchi cyffredinol – ynghyd â negeseuon personol wedi eu hysgrifennu â llaw. Meddai Cara Baker: "Yr hyn oedd yn amlwg oedd y dymuniad gan bawb i wneud bywyd yn haws i'r bobl sydd mewn angen. Mae bod yn rhan o wasanaeth cyhoeddus yn fwy na swydd, mae'n alwedigaeth."

Yn y Rhyl hefyd, mae staff y coleg wedi gosod coeden yn y dderbynfa i fyfyrwyr allu rhoi negeseuon arni i ddangos eu cefnogaeth i bobl Wcráin.

Mae Gwen Evans-Jones sy'n fentor cymorth dysgu ar safle Parc Menai wedi bod yn treulio'i holl amser rhydd yn gwau dwsinau o flodau pabi glas a melyn. Ar ôl eu gorffen mae Gwen yn casglu arian drwy eu dosbarthu i staff a myfyrwyr.

Mae'r myfyrwyr ar gampws Glynllifon wedi bod yn llenwi bocsys gyda nwyddau hanfodol i'w hanfon i Wcráin. Mae'r eitemau'n cynnwys bwyd, eitemau ymolchi, eitemau ar gyfer mislif, llyfrau, eitemau wedi eu gwau i gadw pobl yn gynnes, a theganau a gweithgareddau i blant.

Mae Emrys a Lludd, dau blentyn 9 a 5 oed Swyddog Marchnata Coleg Meirion-Dwyfor, Osian Jones wedi ymrwymo i gerdded i gopa 10 mynydd yng Nghymru dros y misoedd nesaf i godi arian at apêl UNICEF i ddarparu cysgod, bwyd a chefnogaeth i blant Wcráin.

Dros y misoedd nesaf , bydd y pâr - ynghyd a thri o'u ffrindiau – yn cerdded i ben rhai o fryniau a mynyddoedd mwyaf eiconig y wlad, gan orffen yr her ar gopa'r Wyddfa fis Awst. I'w cefnogi, ewch i'w tudalen JustGiving: https://www.justgiving.com/fundraising/hery10copa?fbclid=IwAR3V7jjQqmrzgW5Gac-O1_WFb6FXRRYEZoYZ-UcyGCx9Yu47OyqmE3Ebci0

Gan ddefnyddio'r dechneg o farblo dŵr, mae myfyrwyr sy'n hyfforddi yn salonau Trin Gwallt a Therapi Harddwch safle Bangor wedi bod yn brysur yn creu dyluniadau i'w rhoi ar ewinedd i ddangos cefnogaeth i Wcráin.

Ar gampus Pwllheli, bu myfyrwyr Lefel A yn gweithio mewn stondin gacennau, yn gwerthu ystod eang o nwyddau pob cartref.

Bydd staff a myfyrwyr sy'n gweithio a hyfforddi ym Mwyty Orme View y coleg yn cynnal cinio elusennol ar 30 Mawrth, ac unwaith eto bydd yr holl elw'n mynd tuag at gefnogi'r rhai a effeithiwyd.

Meddai'r Prif Weithredwr, Dafydd Evans: "Rydw i'n falch iawn o ymdrechion y Grŵp i gefnogi pobl Wcráin. Mae'n dangos ethos a gwerthoedd ein staff a'n myfyrwyr."

www.gllm.ac.uk