Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Alex yng ngharfan Prydain Fawr a fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop

Nod y cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo yw cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn 2028 yn Los Angeles ar ôl helpu tîm pêl-fasged cadair olwyn Prydain Fawr i ennill y wobr aur mewn twrnamaint rhyngwladol

Mae cyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo, Alex Marshall-Wilson, yng ngharfan pêl-fasged cadair olwyn Tîm Prydain Fawr sy'n paratoi ar gyfer Pencampwriaethau Iau Ewrop eleni.

Fe wnaeth Alex, sy'n chwarae i dîm Sheffield Steelers, helpu Prydain Fawr i ennill aur yng Nghwpan Pencampwyr Kitakyushu yn Japan ym mis Tachwedd.

Ei uchelgais yw cynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Paralympaidd 2028 yn Los Angeles.

Ond yn y dyfodol llawer agosach, mae gan y dyn ifanc 20 oed o Ddeganwy gystadlaethau cyffrous ar y gweill gyda'i glwb a’r garfan wladol.

Bydd Alex yn chwarae i’r Steelers yn yr EuroCup yn Hanover fis nesaf, yn erbyn timau profiadol o’r Almaen, Twrci, Sbaen ac Awstria.

Mae hefyd yn hyfforddi gyda charfan dan 22 oed Prydain Fawr cyn Pencampwriaethau Iau Ewrop, sydd i'w cynnal yr haf hwn unwaith y bydd lleoliad wedi'i gadarnhau.

Astudiodd Alex Chwaraeon Lefel 3 ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, a bellach mae yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio cwrs gradd mewn Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough.

Mae ei yrfa pêl-fasged cadair olwyn wedi ailddechrau ar ôl seibiant yn dilyn y pandemig - roedd yn aelod allweddol o dîm Prydain Fawr a enillodd eu holl gemau yng Nghwpan Pencampwyr Kitakyushu.

“Roedd yn brofiad anhygoel,” meddai Alex, sy’n chwarae fel blaenwr. “Yn Japan maen nhw'n frwd am bêl-fasged cadair olwyn ac mae yna lu o gefnogwyr yn dilyn y gamp, felly roedd llawer o fuddsoddi yn y twrnamaint.

“Roedden ni’n herio Korea, eu tîm cenedlaethol hŷn llawn a aeth i’r Gemau Paralympaidd. Roedd aelodau sgwad Japan yn iau, ac yn gystadleuol iawn, ond fe wnaeth ennill ein holl gemau yn eu herbyn a churo yn y rownd derfynol roi boddhad mawr i ni.”

Mae gan Alex syndrom ffibwla, wlna ac asgwrn y forddwyd, cyflwr prin sy'n golygu ei fod wedi'i eni ag esgyrn byrrach yn ei gluniau, croth y goes a blaen ei freichiau, yn ogystal â chyhyr ar goll yn ei fraich dde.

Dechreuodd ddefnyddio cadair olwyn yn 10 oed ar ôl i niwed i'r nerf achosi i'w goes chwith gael ei pharlysu.

Dechreuodd Alex ymddiddori mewn pêl-fasged cadair olwyn ar ôl i'w ffisiotherapydd ei roi mewn cysylltiad â Mark Richards, Swyddog Chwaraeon Anabledd Conwy, a oedd hefyd yn hyfforddwr tîm lleol Conwy Thunder.

Dywedodd Alex: “Roeddwn i wir eisiau gwneud chwaraeon bryd hynny. Roeddwn i'n ceisio cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol ond roeddwn i'n tueddu i eistedd ar y llinell ochr, gan nad oedd yr ysgol yn siŵr beth y gallent ei wneud i'm cyflwyno i chwaraeon.

“Pan oeddwn tua 10 neu 11 oed, cyflwynodd Swyddog Chwaraeon Anabledd Conwy fi i amrywiaeth o chwaraeon. Pêl-fasged cadair olwyn oedd y prif un - roedd o'n un o hyfforddwyr y gamp.

“Fe roddodd deimlad o ryddid i mi eto, gan ddefnyddio'r gadair olwyn wahanol a oedd yn golygu y gallwn fod yn eithaf cyflym, yr un cyflymder ag eraill yn fy ngrŵp oedran. Hefyd, unwaith i mi gael blas ar un math o chwaraeon anabledd, roedd mwy o opsiynau.”

Mae Alex yn chwarae tennis cadair olwyn hefyd, a llwyddodd i gyrraedd rowndiau terfynol sawl twrnamaint cenedlaethol y Gymdeithas Tennis Lawnt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fodd bynnag, pêl-fasged cadair olwyn yw ei brif ffocws, ac mae'n gobeithio chwarae'n broffesiynol ar ôl graddio.

“Y prif uchelgais yw chwarae’n broffesiynol dramor,” meddai. “Mae yna gynghreiriau proffesiynol mewn gwledydd fel Ffrainc, Sbaen, yr Almaen a’r Eidal.

“Ond un o’m rhesymau dros fynd i’r brifysgol oedd cael cynllun wrth gefn. Os byddaf yn dioddef anaf sy'n golygu na allaf chwarae pêl-fasged cadair olwyn, hoffwn weithio i fusnes seicoleg chwaraeon sy'n gweithio gyda thimau elitaidd.

“Hoffwn sefydlu fy musnes fy hun hefyd un diwrnod i helpu pobl ag anableddau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy gyfrwng seicoleg.”

Dywedodd Alex fod ei gyfnod yn Llandrillo wedi ei helpu i ragori mewn chwaraeon, ac wedi'i roi ar y llwybr at ei radd seicoleg chwaraeon.

“Fe wnes i fwynhau'r coleg yn fawr,” meddai. “Roedd yn rhoi persbectif gwahanol iawn. Roedd y tiwtoriaid yn wych yn syth am feddwl, 'Sut allwn ni ei gael i wneud hyn?' Fe wnaethon nhw ofyn a oeddwn i eisiau dod â fy nghadair olwyn chwaraeon i'r coleg - roedden nhw'n gymwynasgar iawn ac roedd hynny'n rhywbeth roeddwn i'n ei fwynhau'n fawr.

“Roedd y criw y gwnes i astudio gyda nhw yn dda iawn hefyd. Roedden nhw eisiau gwybod beth roeddwn i'n gallu ei wneud, beth oedd fy nghryfderau a'm gwendidau.

“Fe wnaeth rhai o fy nghyd-fyfyrwyr gymryd rhan mewn chwaraeon anabledd, a gwirfoddolodd dau ohonyn nhw yn y clwb pêl-fasged cadair olwyn lleol. Trefnodd un o'r tiwtoriaid ddiwrnod blasu, a daeth fy hyfforddwr â llwyth o gadeiriau olwyn arbenigol i mewn.

“Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn arw.”

Roeddwn yn gallu defnyddio llawer o'r pethau a ddysgais wrth astudio yn ymarferol yn fy nghamp, fel yr elfennau maeth a ffitrwydd. Un o'r pynciau oedd seicoleg chwaraeon, ac fe helpodd hynny fi i wella fy hun yn feddyliol a chanolbwyntio.

“Roedd gen i ddiddordeb mewn seicoleg chwaraeon cyn i mi ddod i'r coleg. Roeddwn wedi ymchwilio i'r cwrs coleg a gweld fod rhywfaint o seicoleg yn rhan o'r cwrs, ac mae hynny wedi fy arwain at astudio seicoleg chwaraeon yn Loughborough.”

Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.