Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant ym maes gofal i Erin

Mae Erin Jones, ymarferydd gofal clinigol yn hyfforddi i fod yn nyrs ar ôl astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Menai

Dewisodd y nyrs dan hyfforddiant lwybr ei gyrfa yn ystod ei chyfnod yn astudio yng Ngholeg Menai.

Dilynodd Erin Jones gwrs Iechyd a Gofal Lefel 2 ar gampws Llangefni.

Ers gadael y coleg yn 2019, mae hi wedi gofalu am breswylwyr cartref gofal Bryn Seiont Newydd ym Mharc Pendine, yn ei thref enedigol, Caernarfon, ac mae hi bellach wedi cwblhau ei chymhwyster Lefel 3.

Dechreuodd weithio fel gofalwr cyn ennill dyrchafiad i fod yn ymarferydd gofal clinigol, ac mae bellach yn astudio i fod yn nyrs.

Sylweddolodd ei bod yn mwynhau gweithio yn y sector gofal wrth iddi gwblhau lleoliadau gwaith fel rhan o’i chwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Lluniau: Rick Matthews

"Ro'n i wrth fy modd ar y cwrs yng Ngholeg Menai," meddai Erin. “Pan ddechreuais i yn y coleg, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gwneud rhywbeth ymarferol ym maes gofal clinigol.

Ond ar ôl gwneud lleoliad gwaith ym Mryn Seiont Newydd, mi wnes i sylweddoli faint roeddwn i'n mwynhau'r gwaith, ac arweiniodd hynny at weithio yma.

Dw i’n mwynhau’r agwedd iechyd meddwl ohono, ac mae’n dda rhoi rhywbeth yn ôl i bobl.

Hefyd, fel rhan o’m cwrs, dysgais am bethau fel diogelu a chyfrinachedd – unwaith y byddwch yn dysgu'r pethau hyn dydych chi byth yn eu hanghofio.”

Yn ddiweddar, gwirfoddolodd Erin i weithio ei phedwerydd Dydd Nadolig yn olynol i sicrhau bod y bobl y mae'n gofalu amdanynt yn gallu mwynhau'r dathliadau.

“Mae diwrnod arferol ym Mryn Seiont Newydd bob amser yn brysur, yn hwyl ac yn werth chweil. Does dim dau ddiwrnod yr un peth," meddai.

“Mae’r awyrgylch ym Mryn Seiont Newydd yn hyfryd iawn drwy’r flwyddyn ac mae’n lle prysur dros y Nadolig.

Mae pob aelod o staff yn gweithio'n galed iawn i'w wneud yn arbennig i'r preswylwyr. Rydym yn addurno'r lolfeydd a'r coridorau a'r cyntedd ac mae llawer o oleuadau, llawer o gardiau a choeden wrth gwrs.

Mae’r Nadolig yn adeg arbennig i breswylwyr hefyd. Maen nhw'n rhannu eu hatgofion am Nadoligau'r gorffennol a sut mae pethau wedi newid ers pan oeddynt yn ifanc. Mae'n braf clywed y straeon hyn.

“Rydym hefyd yn croesawu teuluoedd ac yn darparu ar eu cyfer yn ystod ymweliadau. Mae’r Nadolig yn gallu bod yn anodd iddyn nhw ond rydyn ni’n chwarae gemau, yn tynnu cracers ac yn canu.”

Roedd Erin yn un o tua 60 aelod o staff oedd yn gweithio ym Mryn Seiont Newydd ar Ddydd Nadolig.

Roedd eu rheolwr, Sandra Evans, yn gwerthfawrogi'r gwaith caled yn fawr, a dywedodd: “Rydym yn gofyn pwy hoffai weithio ar Ddydd Nadolig ac mae Erin bob amser wedi cynnig ei hun i weithio'r diwrnod hwnnw.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r staff sydd, fel Erin, yn fodlon dod yma i ail-greu ychydig o hud y Nadolig gyda'r preswylwyr yma."

Diddordeb mewn astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma ⁠i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.