Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Naomi yn cerdded 60km i godi arian at iechyd dynion

Cymerodd y swyddog gweithgareddau lles Naomi Grew ran yn ymgyrch ‘Move For Mental Health’ Tashwedd, gan gerdded trwy rhai o olygfeydd harddaf gogledd Cymru

Cododd Naomi Grew, swyddog gweithgareddau lles Grŵp Llandrillo Menai £145 at elusen iechyd dynion Tashwedd.

Cymerodd Naomi ran yn ‘Move For Mental Health’, lle mae cyfranogwyr yn cerdded neu’n rhedeg 60 cilomedr yn ystod mis Tachwedd.

Cerddodd 2km y dydd ar gyfartaledd, gan gerdded ymhellach ar y penwythnosau mewn mannau prydferth fel Gwarchodfa Natur RSPB Conwy, Nant y Coed yn Llanfairfechan, Rhaeadr Ogwen, Llanberis ac Ynys Llanddwyn.

Ar benwythnos olaf y mis, aeth Naomi i Gwmystwyth yng Ngheredigion, a cherddodd yn Ystâd Hafod, Pontarfynach a gwarchodfa natur Bwlch Nant yr Arian.

Meddai Naomi: “Penderfynais godi arian at Fis Ymwybyddiaeth Iechyd Dynion gan ei fod yn rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno fel Grŵp i godi ymwybyddiaeth.

“Po fwyaf o ymchwil wnes i, y mwyaf roeddwn i’n teimlo’r angen, fel merch ac fel chwaer i ddau frawd, gan fod dynion yn aml yn cael eu gwthio o’r neilltu, boed hynny o ran eu hiechyd meddwl neu eu hiechyd corfforol.

“Roeddwn i eisiau dangos fy nghefnogaeth a chyfrannu tuag at achos anhygoel, sy’n codi arian tuag at atal hunanladdiad, canser y ceilliau, canser y brostad a mwy. Roeddwn i eisiau dangos fy mod yn gefnogwr i’r achos.”

Ychwanegodd: “Hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr a’m teulu hyfryd am gyfrannu arian a gwrando arna i yn ystod y mis.”

Mae Tashwedd yn codi arian i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl dynion yn ogystal â chanser y brostad a chanser y ceilliau. Mae'r elusen wedi ariannu mwy na 1,250 o brosiectau iechyd dynion ledled y byd ers 2003.

Cafodd ‘Move For Mental Health’ ei sefydlu gan Tashwedd i gofio’r 60 o ddynion a gollir i hunanladdiad yn fyd-eang, bob awr.

I gael rhagor o wybodaeth am Tashwedd, ewch i'r wefan.

Cewch hyd i dudalen codi arian Tashwedd Naomi yma.