Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Yuliia yn targedu WorldSkills 2026 yn Shanghai

Bydd cyfle i fyfyriwr Coleg Llandrillo, Yuliia Batrak, i weithio mewn lleoliadau o'r radd flaenaf fel The Ritz a Gleneagles fel rhan o'i hyfforddiant ar gyfer y gystadleuaeth fyd-eang

Mae Yuliia Batrak yn targedu rowndiau terfynol WorldSkills 2026 yn Shanghai yn dilyn ei llwyddiant eleni.

Gorffennodd blwyddyn y myfyriwr o Goleg Llandrillo ar nodyn uchel, wedi iddi ennill medal aur yn y categori Gwasanaeth Bwyty yn rowndiau terfynol WorldSkills UK ym Manceinion fis diwethaf.

Bydd Yuliia yn ymuno â charfan y DU rŵan i hyfforddi ar gyfer y rowndiau terfynol byd-eang yn Tsieina, a bydd yn cael cyfle i gael profiad gwaith mewn lleoliadau o'r radd flaenaf fel The Ritz yn Llundain a Gleneagles Resort yn yr Alban.

Allan o garfan o chwech, dim ond un fydd yn cael ei ddewis yn y pen draw i gynrychioli’r DU yn Shanghai.

Gallai’r profiad fod yn werthfawr iawn i Yuliia a'i huchelgais o agor bwyty Wcrainaidd ym Mhrydain rhyw ddydd.

Wrth siarad am ei buddugoliaeth WorldSkills, dywedodd y ferch 17 oed: “Rydw i mor falch ohonof fy hun. Roeddwn i'n teimlo pwysau gan y beirniaid a'r holl waith rydw i wedi'i wneud. Fe wnes i ymarfer cymaint oherwydd roeddwn i'n teimlo efallai na fyddai gen i gyfle arall i ennill, ac roedd pawb yn barod iawn i helpu a chefnogi.

"Roedd yn brofiad anodd, cael y beirniaid yn eich gwylio chi - yn wahanol iawn i pan fyddwch yn ei wneud yn y coleg! Ond roedd yn werth yr ymdrech. Roedd yn emosiynol iawn a bydd yn agor drysau i mi yn y dyfodol.”

I ennill aur roedd yn rhaid i Yuliia arddangos sgiliau amrywiol, gan gynnwys adnabod gwin, gwneud coctels, gwneud coffi arbenigol, Stecen Diane flambé, Crêpes Suzette flambé, a gwasanaeth te prynhawn gyda gwesteion go iawn.

Daw ei llwyddiant ar ôl iddi ennill dwy fedal aur yng Nghystadleuaeth Coginio Rhyngwladol Cymru ym mis Chwefror, pan sgoriodd uchafswm o 100 pwynt ym mhob cystadleuaeth - y tro cyntaf i hyn gael ei wneud yn hanes y gystadleuaeth.

Diolchodd Yuliia i’w darlithwyr am eu cefnogaeth yn y cystadlaethau – yn arbennig Glenydd Hughes, ei thiwtor o’r flwyddyn academaidd ddiwethaf, a Mike Garner, a’i hyfforddodd ar gyfer rowndiau terfynol WorldSkills.

“Fe wnaethon ni gyfrif o leiaf 192 awr o ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth hon yn unig,” meddai Yuliia. “Dw i'n falch iawn bod coleg yn rhoi cyfleoedd fel hyn i bobl ifanc wella eu sgiliau a'u cyflogadwyedd. Bydd yn help mawr gyda fy CV, ac mae’n gyfle gwych.”

Cyrhaeddodd Yuliia y DU gyda’i mam a’i chwaer y llynedd, ar ôl iddyn nhw orfod gadael eu cartref yn Kyiv yn dilyn ymosodiad Rwsia ar yr Wcrain.

Mae hi'n byw ym Mae Colwyn erbyn hyn, ac yn astudio Coginio Proffesiynol Lefel 2 ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, ar ôl cwblhau ei chwrs Gwasanaeth Bwyd a Diod Lefel 1 yn yr haf.

Breuddwyd Yuliia ydy rhedeg bwyty â seren Michelin un diwrnod, ac mae hi'n awyddus i arddangos bwyd Wcrain i weddill y byd.

“Cyn i mi symud i’r Deyrnas Unedig roeddwn i wrth fy modd yn coginio llawer,” meddai. “Yna fe ddes i’r DU a gwelais y cyfle i fynd i’r coleg hwn, oherwydd roedd pawb yn dweud pa mor wych ydy’r cwrs lletygarwch ac arlwyo.

"Dyma fy ail gartref erbyn hyn. Yma rydych chi'n dod o hyd i gymaint mwy o ffrindiau a chymaint mwy o gefnogaeth ac rydych chi'n dod yma gyda gwên.

"Dw i eisiau agor fy mwyty fy hun yn y dyfodol a chael seren Michelin. Dw i eisiau agor bwyty cuisine Wcreineg, dw i eisiau dangos i'r Deyrnas Unedig pa mor wych ydy ein bwyd ni."

Gwyliwch ein cyfweliad gyda Yuliia ar YouTube.

Awydd astudio Lletygarwch ac Arlwyo gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.