Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Phoebe'n serennu wrth i'r Nomadiaid wthio am ddyrchafiad

Mae’r fyfyrwraig o Goleg Llandrillo wedi camu i dîm hŷn Nomadiaid Cei Connah, ac mae ei goliau wedi eu helpu i saethu i frig y gynghrair

Mae hi wedi bod yn dipyn o flwyddyn i Phoebe Ellis Griffiths, myfyriwr yng Ngholeg Llandrillo.

Mae’r seren bêl-droed 16 oed wedi bod yn sgoriwr goliau toreithiog i ferched Nomadiaid Cei Connah, sydd ar frig eu cynghrair ar ôl ennill eu chwe gêm gyntaf.

Gwnaeth Phoebe ei hargraff gyntaf ar y tîm hŷn y tymor diwethaf pan sgoriodd ym muddugoliaeth Cei Connah dros Airbus yn rownd derfynol Cwpan Her FA Gogledd Ddwyrain Cymru.

Ar ôl creu argraff yn y tîm dan 19, daeth Phoebe oddi ar y fainc i’r tîm hŷn yn ystod y rownd derfynol – ac o fewn munudau sgoriodd y gôl a sicrhaodd y fuddugoliaeth.

Ers hynny mae hi wedi bod yn ddechreuwr cyson i’r tîm hŷn er gwaethaf ei hoedran, ac wedi camu ymlaen o ddifrif – gan sgorio saith gôl yn ei thair gêm gyntaf y tymor hwn.

Sgoriodd Phoebe dair gôl mewn buddugoliaeth ddiweddar o 4-0 yn Y Felinheli, a gadwodd Cei Connah ar frig Adran Genero'r Gogledd.

Mae hi’n profi’n chwaraewr allweddol i’r tîm hŷn wrth iddynt wthio am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair Genero Adran, a fyddai’n golygu cymysgu â chlybiau gorau Cymru fel Clwb Pêl-droed Wrecsam, Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe.

“Mae’n lefel wahanol i’r hyn rydw i wedi arfer yn y tîm dan 19 oed,” meddai Phoebe, sy’n astudio Chwaraeon Lefel 2 yng Ngholeg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.

“Mae'n llawer mwy proffesiynol ac rwyf wrth fy modd. Mae yn erbyn pobl llawer hŷn na fi, ac mae'n gorfforol iawn.

“Ond rydan ni ar frig y gynghrair, fe wnaethon ni guro Llandudno, ac mae angen i ni ddal i ennill i sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.”

Rhoddodd gôl Phoebe yn rownd derfynol y cwpan y tymor diwethaf hwb enfawr i'w hyder, sydd wedi parhau i'r ymgyrch hon.

“Yn y rownd derfynol roeddwn i’n eilydd i ddechrau oherwydd doedd dim llawer ers i mi ymuno,” meddai. “Rwy’n cofio fy rheolwr yn edrych arna i ac yn dweud ‘Mae gen i ffydd y galli di newid y gêm 'ma’.

“Roedd hi’n 2-1 ac fe ddes i ymlaen, ac roedd angen yr hwb ychwanegol arnon ni i wneud yn siŵr ein bod ni’n ennill y gwpan. Dwi’n cofio bod o flaen y gôl a nes i godi'r bêl dros y golwr a dyna fo! Cafodd y chwiban olaf ei chwythu rhyw 10 munud wedyn.

“Rhoddodd y gôl honno lawer o hyder i mi, oherwydd pan ymunais gyntaf roeddwn yn mynd i amgylchedd newydd, mwy corfforol, a doeddwn i ddim yn siŵr iawn o fy lle yno, ond rŵan, dyma'r norm.”

Cafodd Phoebe ei hannog i chwarae pêl-droed am y tro cyntaf gan ei brawd Kie, sydd bellach yn chwarae i'r Rhyl.

Yn bump oed dechreuodd chwarae i dimau bechgyn, gan gynrychioli clwb ei thref enedigol, Bae Cinmel, ac yna Towyn, cyn ymuno â’i thîm merched cyntaf yn 10 oed pan ddechreuodd chwarae i’r Rhyl.

“Yr adeg honno, dwi’n gwybod nad oedd hi’n bell yn ôl, ond, doedd dim llawer o dimau merched o gwmpas, felly ymunais â thîm bechgyn,” meddai. “Pan es i ar y dechrau roeddwn i braidd yn ofnus, ond unwaith roeddwn i ar y cae doedd dim ots gen i, ac roeddwn i'n ymgolli yn llif y gêm.”

Uchelgais Phoebe yw chwarae’n broffesiynol, a chafodd gipolwg amhrisiadwy ar yr hyn y mae'n ei gymryd i lwyddo ar y lefel uchaf pan gafodd dreialon gyda Manchester City yn 10 oed.

Meddai: “Mi ges i fy sgowtio i City pan o'n i’n 10. Roeddwn i mewn twrnamaint yn y Rhyl gyda’r merched, ac ar ddiwedd y gêm mi ofynnon nhw a oeddwn i eisiau dod draw am ychydig wythnosau ar brawf.

“Fe es i yno ac roedd yn amgylchedd hollol wahanol eto. Roeddwn i'n 10, ac roeddwn i'n chwarae gyda rhai dan 16 oed. Dim ond newydd adael y tîm bechgyn, ac ymuno â'r tîm merched o'n i, felly roedd yn gam enfawr symud o bêl-droed llawr gwlad i lefel broffesiynol go iawn yn 10.

“Yn ddiweddar mae Stoke wedi bod eisiau fy arwyddo i hefyd, ond dwi’n sticio efo Cei Connah ar hyn o bryd i weld lle mae’n mynd achos dwi dal yn ifanc.”

Mae Phoebe hefyd eisiau cynrychioli Cymru, ac yn ddiweddar chwaraeodd i dîm Grŵp Llandrillo Menai a gyrhaeddodd rownd gynderfynol cystadleuaeth genedlaethol yng Nghaerdydd.

Mae'r coleg hefyd yn helpu Phoebe i ddatblygu yn y gamp. Mae hi'n cael gwersi tan tua 2.30pm bob dydd, cyn hyfforddi gydag academi Llandrillo am weddill y prynhawn.

Meddai: “Dwi mor falch fy mod wedi dewis y cwrs yma, oherwydd rwy'n mwynhau dod yma bob dydd, a dysgu.

“Mae anatomeg a ffisioleg yn ddiddorol iawn, ac mae anafiadau a pherfformiad chwaraeon hefyd. Mae'n ddiddorol dysgu am yr anafiadau a all ddigwydd oherwydd os byddaf yn cael fy anafu, mae be' dwi wedi'i ddysgu yn mynd i fy helpu i wybod a yw'n ddifrifol ai peidio.

“Mae yna lawer o bynciau gwahanol, ac mae pob un yn ddiddorol - a hyd yn oed os nad ydy pêl-droed yn mynd fel dwi'n gobeithio, dwi'n teimlo y byddaf yn gallu mynd i hyfforddi ar ôl dysgu cymaint ar y cwrs.”

Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored Grŵp Llandrillo Menai.