Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bwrdd Llywodraethwyr Grŵp Llandrillo Menai'n Mabwysiadu Diffiniad yr IHRA o Wrth-semitiaeth

Mae Grŵp Llandrillo Menai’n falch o gyhoeddi bod ei Fwrdd Llywodraethwyr wedi mabwysiadu’n swyddogol ddiffiniad gweithredol Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) o wrth-semitiaeth, gan atgyfnerthu ymrwymiad y sefydliad i feithrin amgylchedd cynhwysol sy'n parchu pawb.

Mae’r penderfyniad strategol hwn yn cyd-fynd â pholisi cydraddoldeb cadarn Grŵp Llandrillo Menai, gan ddangos ymrwymiad cryf i hyrwyddo amrywiaeth a dileu gwahaniaethu. Trwy fabwysiadu diffiniad yr IHRA, mae’r coleg yn atgyfnerthu ei addewid i greu awyrgylch lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ni waeth beth fo’i gefndir.

Mae diffiniad gweithredol yr IHRA yn darparu fframwaith clir ar gyfer adnabod gwrth-semitiaeth a mynd i'r afael â'r mater, gan gyfrannu at strategaeth gynhwysfawr sy'n cyd-fynd â pholisi Grŵp Llandrillo Menai o beidio â dangos dim goddefgarwch wrth ymdrin â hiliaeth.

Mae'r coleg yn gadarn yn ei genhadaeth o gynnal amgylchedd sy'n ymwrthod â phob math o ragfarn, ac mae mabwysiadu'r diffiniad hwn yn cadarnhau ymhellach ei ymrwymiad i feithrin awyrgylch o oddefgarwch a dealltwriaeth.

Ynghylch yr IHRA

Mae'r Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost yn sefydliad rhynglywodraethol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo a datblygu addysg, ymchwil a digwyddiadau i gofio'r Holocost.

Mae diffiniad gweithredol yr IHRA o wrth-semitiaeth yn adnodd hanfodol ar gyfer adnabod a mynd i’r afael â digwyddiadau gwrth-semitaidd yn fyd-eang.