Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd a Diod – City & Guilds

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Mae pob lefel yn flwyddyn o gwrs llawn amser (mis Medi i fis Mehefin).

Gwnewch gais
×

Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd a Diod – City & Guilds

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os oes gennych ddiddordeb mewn bwyd ac awydd i weithio yn un o ddiwydiannau mwyaf cyffrous y byd, efallai mai dyma'r cwrs i chi. Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn cynnig cyfleoedd gwaith mewn gwestai, tai bwyta, caffis, tafarnau a chwmnïau arlwyMae'r swyddi sydd ar gael yn y diwydiant yn amrywio o oruchwylwyr ym maes bwyd a diod i gogyddion iau, cogyddion sous a phrif gogyddion, i enwi dim ond rhai.

Ar lefel 1 a 2 byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gogyddion proffesiynol a staff gweini. Ar lefel 3 gallwch ddewis arbenigo mewn un ai sgiliau coginio proffesiynol uwch neu sgiliau goruchwylio uwch ym maes bwyd a diod.

Wrth i chi fynd ymlaen trwy'r lefelau byddwch yn dysgu technegau, sgiliau a gwybodaeth cynyddol uwch a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant deinamig hwn.

Bydd ymgeiswyr ar gyfer y cwrs hwn yn cael eu gwahodd i gyfarfod â thiwtoriaid y cwrs i drafod pa lefel astudio sydd fwyaf addas iddynt.

Gofynion mynediad

Bydd disgwyl i chi ddangos ymrwymiad i'ch rhaglen astudio.

Mae angen dau gymhwyster TGAU ar gyfer cwrs Lefel 1, neu fod wedi cwblhau cwrs galwedigaethol perthnasol arall yn llwyddiannus. Gellir trafod hyn yn ystod y cyfweliad.

Ar gyfer cwrs lefel 2 neu lefel 3 mae angen cymhwyster proffesiynol lefel 1 neu lefel 2 mewn maes perthnasol. Byddai profiad perthnasol yn y diwydiant yn cael ei ystyried.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o weithdai ymarferol, sesiynau theori rhyngweithiol a hyfforddiant a phrofiad go iawn yn ein bwytai a'n ceginau sydd o'r un safon ag a geir yn y diwydiant, gan weini cwsmeriaid sy'n disgwyl y safonau uchaf.

Bydd siaradwyr gwadd arbennig a thripiau sy'n berthnasol i'r cwrs yn rhan o'r cwrs hefyd. Yn ogystal, bydd cyfle i'r rhai sydd am gael eu herio ymhellach gymryd rhan mewn cystadlaethau.

Asesiad

Asesir y cwrs drwy gyfrwng profion ymarferol, aseiniadau a chwestiynau ysgrifenedig. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu graddio fel llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth felly mae disgwyl ymroddiad a gwaith caled.

Dilyniant

  • City & Guilds Lefel 2 Coginio a Gwasanaeth Bwyd Proffesiynol
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynhyrchu Bwyd a Hanfodion Coginio
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1,2 & 3

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin