Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pobl Ifanc yn Rhoi Cynnig ar Weithgareddau Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad

Croesawodd Coleg Glynllifon, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol, dros 60 o bobl ifanc yn ddiweddar, i ddysgu mwy am y sector Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad.

Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y plant uwchradd, er mwyn eu hysbrydoli i ystyried gyrfa yn y diwydiant. O ymweld â’r felin lifio ar y safle a defnyddio’r efelychydd coedwigaeth, i ddod i adnabod coed a’r rhywogaethau amrywiol, cafodd y bobl ifanc gipolwg go iawn ar y sector.

Roedd pwysig yn y diwydiant, megis Prifysgol Bangor a Chyngor Cefn Gwlad Cymru hefyd wrth law i drafod cyfleoedd gwaith gyda’r bobl ifanc.

Dywedodd Jeff Rowland Hughes, Pennaeth Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad yng Ngholeg Glynllifon,

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol am drefnu'r diwrnod yma yng Ngholeg Glynllifon. Cafodd disgyblion ysgolion uwchradd lleol gyfle i ddysgu mwy am y sector cyffrous yma, sydd hefyd yn hynod bwysig i economi Cymru a galwadau Llywodraeth Cymru i ymateb i newid hinsawdd.

Ychwanegodd

“Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl, ac yn gyfle i ddisgyblion ddysgu mwy am ein cyrsiau sydd ar gael, a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt wrth astudio’r pynciau hyn”

Os hoffech chi ddysgu mwy am gyrsiau Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad sydd ar gael yn y coleg, cliciwch yma.