Myfyriwr Adeiladwaith yn cipio Cystadleuaeth Sgiliau Merched HIP Genedlaethol
Mae Tiffany Baker, sy’n astudio ‘Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu - Plymio a Gwresogi’ ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, newydd gael ei henwi’n Enillydd Sgiliau Merched HIP ar gyfer 2023.
Ar ôl dod i’r brig yn y rhagbrofion rhanbarthol diweddar, cymerodd Tiffany ran yn y rownd derfynol genedlaethol ddoe yng Ngholeg Loughborough – lle brwydrodd chwech yn y rownd derfynol i gael ei choroni’n Enillydd Sgiliau Merched HIP 2023.
Dywedodd Marius Jones, Rheolwr Maes Rhaglen ar gyfer Adeiladu a Pheirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor,
“Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant ysgubol Tiffany. Mae gan Coelg Meirion-Dwyfor hanes hir iawn o gystadlu mewn, ac ennill cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae gweld Tiffany yn dilyn y traddodiad hwn yn wych”.
Ychwanegodd, "Mae'n galonogol gweld un o'n dysgwyr benywaidd yn ennill ar lwyfan cenedlaethol - a dwi'n obeithiol y bydd gweld llwyddiant Tiffany yn denu mwy o ferched i astudio Adeiladwaith, ac i fynd ymlaen i ddiwydiant sy'n galw am fwy o weithwyr benywaidd. "
“Pob lwc i Tiffany ar ei hasesiadau yn y Coleg, rwy’n siŵr y bydd y sgiliau y mae wedi eu dysgu ar gyfer y gystadleuaeth yn dod â marc uchel iawn iddi!”
Dywedodd Chris Penney, Arweinydd Rhaglen GIVE LIXIL EMENA, “Mae safon y gwaith wedi bod yn uchel iawn. Rydym am annog mwy o fenywod i mewn i'r diwydiant plymio. Mae’n bwysig ein bod ni’n pontio’r bwlch rhwng y rhywiau.”
Dywedodd Zoë Tanner, Rheolwr Gyfarwyddwr HIP, “Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gymerodd ran. Dylech fod yn hynod falch ohonoch eich hunain. Mae wedi bod yn anrhydedd llwyr gweld y genhedlaeth nesaf o blymwyr benywaidd yn dangos eu sgiliau.”
Noddwyd y gystadleuaeth gan lawer o enwau mawr yn y diwydiant, gan gynnwys Grohe, Viessmann, Aalberts IPS, Grundfos, Kingspan, Wolseley Plumb Parts, Talon, Stelrad, Scruffs, Yorkshire Copper Tube, CIPHE a WD-40.
I ddysgu mwy am gyrsiau Adeiladwaith yn y coleg, clicia yma.