Prosiect Newydd i Daclo Unigrwydd ym Maes Iechyd a Gofal
Mae partneriaeth newydd rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio i ganfod ffyrdd o daclo unigrwydd ym maes gofal.
Mae'n brosiect cydweithredol, bydd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Cyfrifiadura yng Ngholeg Llandrillo yn rhaglennu robot rhyngweithiol, amlbwrpas, o'r enw Pepper ac ar yr un pryd, bydd myfyrwyr o'r adran Iechyd a Gofal yn astudio effaith cadarnhaol y robot ar unigolion.
Eglurodd Hailey Hockenhull, Rheolwr y Maes Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Llandrillo:
"Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Sir Ddinbych am gynnig cyfle i'n myfyrwyr weithio gyda'u tîm a gyda’r robot blaengar hwn.
"Mae ein gwaith gyda Pepper yn arbrawf cyffroes i ganfod ydy robotiaid yn gallu cynnig cymorth gwirioneddol i'r sector gofal cymdeithasol. Mae Pepper yn robot blaengar iawn, gall wneud cyswllt llygaid a dynwared symudiadau. Mae hynny'n gwneud i chi deimlo eich bod yn cael sgwrs go iawn ag o."
Meddai Elen Heaton, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
Cafodd y prosiect Roboteg Gofal Cymdeithasol ei ohirio yn ystod y Pandemig, oherwydd y bwriad gwreiddiol oedd ymchwilio i ymyrraeth wyneb yn wyneb i fynd i'r afael ag unigrwydd.
Mae'r bartneriaeth newydd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Grŵp Llandrillo Menai yn gyfle cyffroes i ddatblygu dealltwriaeth o fanteision posib y math yma o waith. Mae'n edrych ar fanteision rhoi lle canolog i dechnoleg yn y sector gofal cymdeithasol ac yn cynnig cipolwg i bobl ifanc a myfyrwyr ar y sector ynghyd â chyfle i feddwl yn greadigol a datblygu dulliau i ddatrys problemau yn y dyfodol."
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Iechyd a Gofal yn y coleg, cliciwch yma.