Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Cwmni Colur Mwyaf yn y Byd yn Dod i'r Coleg

Cafodd myfyrwyr Trin Gwallt Grŵp Llandrillo Menai eu gwahodd gan gynrychiolwyr cwmni colur mwya'r byd i gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig iawn: diwrnod o ddathlu ac i arddangos y grefft a'r ddawn sy'n gysylltiedig â thrin gwallt a choluro, yn ogystal â chyfle i weld rownd derfynol cystadleuaeth L'Oréal Colour Trophy am eleni'n cael ei dangos ar sgrin fawr.

Roedd yr L'Oréal Future Talent Watch Party yn un o bum digwyddiad a gynhaliwyd ledled y DU ac yn gyfle i fyfyrwyr Trin Gwallt o dri choleg Grŵp Llandrillo Menai – Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor – gymryd rhan mewn tiwtorialau ac arddangosiadau amrywiol, yn ogystal â derbyn bag o roddion am ddim!

Yr artist a wahoddwyd i'r digwyddiad oedd Ashley Graham, cyn-fyfyriwr Trin Gwallt o Goleg Llandrillo. Dychwelodd i'w gyn-goleg ychydig fisoedd yn unig wedi i'w greadigaethau ffasiynol ar gyfer amrywiol frandiau byd-eang gael eu gweld ar lwyfannau wythnosau ffasiwn Efrog Newydd, Paris a Llundain!

Yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn y coleg cafodd rownd derfynol cystadleuaeth L'Oréal Colour Trophy ei dangos o Lundain ar sgrin fawr. Mae'r gystadleuaeth fyd-eang hon, a ddechreuodd gael ei chynnal yn y 1950au, yn llawn bri ac yn gyfle i weithwyr trin gwallt proffesiynol ddangos eu doniau a'u creadigrwydd a rhoi cynnig ar ennill gwobrau anhygoel.

Yn y digwyddiad ar gampws Llandrillo-yn-Rhos cafodd y dysgwyr eu hannog hefyd i gofrestru ar gyfer categori newydd i fyfyrwyr sef LCT Future Talent.

Mae cryn edrych ymlaen at yr ychwanegiad hwn i'r sioe flynyddol, sydd wedi bod yn un o'r cystadlaethau pwysicaf yn y maes trin gwallt ers dros chwe degawd. Wrth gofrestru ar gyfer y categori LCT Future Talent bydd myfyrwyr y coleg yn cystadlu am gyfle i gael eu mentora gan berson amlwg yn y diwydiant trin gwallt.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Trin Gwallt yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk