Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Mynd ar Brofiad Gwaith i'r Almaen

Yn ddiweddar treuliodd deg myfyriwr Peirianneg o Goleg Menai bythefnos ar brofiad gwaith yn yr Almaen fel rhan o'r rhaglen Erasmus+.

Cwblhaodd y myfyrwyr eu profiad gwaith mewn cwmnïau peirianneg lleol oedd yn arbenigo mewn meysydd oedd yn amrywio o beirianneg chwaraeon moduro i beirianneg awyrennau a pheirianneg fecanyddol.

Coleg addysg a hyfforddiant oedolion, Akademie Klausenhof, sef partner Erasmus+ y Coleg oedd yn cynnal yr ymweliad. Rhaglen sy'n cefnogi addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yn Ewrop yw Erasmus+, ac mae'n rhoi arian a chefnogaeth i ddysgwyr i'w galluogi i deithio yn Ewrop i ehangu eu gorwelion ac ennill profiadau.

Ar benwythnosau ac yn ystod eu hamser rhydd yn Hamminkeln, ymwelodd y myfyrwyr hefyd â chofebion, atyniadau a threfi a phentrefi cyfagos.

Cafodd Josh Royale sy'n fyfyriwr ar y cwrs Peirianneg Cerbydau Modur Lefel 3 fynd ar brofiad gwaith i gwmni peirianneg chwaraeon moduro tra oedd yn yr Almaen. Meddai,

"Roedd y trip yn ardderchog! Roedd yn wych cael y cyfle i fynd i wlad dramor i weithio. Dw i wedi dysgu llawer ac mi fydda i'n defnyddio'r hyn a ddysgais dramor mor aml â phosib yn fy astudiaethau."

Esboniodd Leighton Anthony Owen sy'n dilyn y cwrs Peirianneg Drydanol Lefel 3,

"Ar ôl cyrraedd ar y noson gyntaf cawsom groeso cynnes iawn gan staff Akademie Klausenhof! Roedd pawb yno ac yn fy lleoliad gwaith yn gyfeillgar a pharod iawn i helpu.

Roedd y profiadau ges i'n ystod y profiad gwaith yn rhagorol ac mi fyddan nhw'n ddefnyddiol iawn i mi yn fy ngyrfa yn y diwydiant Peirianneg. Mi faswn i'n bendant yn gwneud y cyfan eto."

Meddai Andy Brookes, Swyddog Rhyngwladol yng Ngrŵp Llandrillo Menai,

"Datblygwyd y prosiect Erasmus+ i roi cyfle i'n dysgwyr gael profiad gwaith mewn gwlad dramor yn y maes maen nhw wedi dewis arbenigo ynddo, er mwyn eu hysgogi ac ehangu eu gorwelion.

"Manteisiodd yr holl ddysgwyr ar y cyfle ac maen nhw wedi bod yn glod i'r coleg a'u tiwtoriaid. Rydan ni wedi cael adborth ardderchog gan staff Akademie Klausenhof a'r cyflogwyr yn yr Almaen, a hoffem ddiolch i ddysgwyr a staff yr adran Beirianneg am ymweliad llwyddiannus iawn."

Aeth Arron Peel, Dirprwy Reolwr Maes Rhaglen Peirianneg Coleg Menai gyda'r myfyrwyr i'r Almaen. Meddai,

"Mi wnaeth yr holl fyfyrwyr fwynhau eu hunain yn fawr iawn yn yr Almaen, ac roedd y trip yn ychwanegiad gwych at y profiadau maen nhw wedi eu cael gyda ni yma yng Ngholeg Menai."

Ychwanegodd, "Mae cynllun profiad gwaith Erasmus+ yn ffordd wych o roi blas realistig i'r myfyrwyr ar y byd gwaith go iawn. Rydym yn hynod ddiolchgar i Akademie Klausenhof am ein croesawu, ac i'r cwmnïau lleol a ddarparodd leoliadau gwaith arbennig iawn i'n myfyrwyr."