Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Nofio yn y môr ac ysgol pizza yn helpu pobl i wella eu sgiliau rhif

Rŵan bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cael mynd ar gyrsiau mathemateg AM DDIM gyda phrosiect Rhifedd Byw - Lluosi yn dilyn newid i’r meini prawf cymhwysedd

Nofio yn y môr, sesiynau ffitrwydd ac 'ysgol pizza' yw dim ond rhai o'r digwyddiadau a gynhaliwyd gan y prosiect yn ddiweddar i helpu pobl i wella eu sgiliau rhif.

Mae prosiect Lluosi yn helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd, gan gynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Felly os oes arnoch angen cymorth i reoli eich arian, i fod yn gefn i'ch plant gyda'u gwaith cartref, neu i wella eich cyfleoedd yn y gwaith neu symud ymlaen i hyfforddiant ar lefel uwch, gall Lluosi helpu - ac mewn mwy o ffyrdd nag y byddech yn sylweddoli.

Yn ddiweddar, aeth dysgwyr dewr i nofio yn y môr ym Mae Trearddur, sesiwn a gynhaliwyd ar y cyd ag Age Cymru Gwynedd a Môn.

Mesurodd y nofwyr gyfradd curiad eu calon a thymheredd y corff cyn ac ar ôl bod yn y môr, gan gymharu darlleniadau gwahanol grwpiau oedran a rhyw, a chyfrifo cyfartaledd y categorïau gwahanol.

Dywedodd Alwen Pennant Watkin, Swyddog Cefnogi Hybiau Cymunedol Ynys Môn i Age Cymru Gwynedd a Môn: "Ar ran Age Cymru Gwynedd a Môn, hoffwn ddiolch i dîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai am gefnogi’r digwyddiad Dewch i Drosi Dros Dewi a gynhaliwyd ym Mae Trearddur.

“Cawsom hwyl yn cofnodi cyfradd curiad y galon cyn ac ar ôl bod yn y môr a chyfrifo'r cyfartaledd ar gyfer dynion a merched iau na 50 a thros 50 oed.”

⁠Yng Ngwynedd, cynhaliwyd sesiwn Rhifedd mewn Ffitrwydd yng Nghaffi Braf yn Ninas Dinlle ger Caernarfon. Cafwyd sesiwn 'Gwario'n Gall' hefyd, yn hwb cymunedol Porthi Dre yng Nghaernarfon, lle mae'r banc bwyd lleol. Roedd hyn yn cynnwys gweithdy cyllidebu ac yna gêm o bingo mathemateg.

Aeth tiwtoriaid Lluosi i’r Ffair Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle'r oedd dros 700 o bobl. Yno, roedd gofyn i bobl gyfrifo faint o ffa jeli oedd yn y pot, a chawsant eu herio gyda phosau mathemateg eraill.

Yn Ynys Môn, cynhaliodd Lluosi ysgol pizza a sesiwn pobi cacennau, gan gyflwyno rhieni a gwarcheidwaid i gyllidebu trwy goginio pryd bwyd o'r dechrau. Cafwyd taith gerdded o Ynys Lawd dros y Pasg, a oedd yn gyfle arall i drafod rhifau a rhifedd y tu allan i’r dosbarth wrth ymarfer.

Aeth Lluosi i'r Ffair Swyddi Twristiaeth a Lletygarwch a gynhaliwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghanolfan Waith Llangefni. Rhoddodd y tiwtoriaid bobl ar waith yn trin rhifau trwy osod tasgau mathemateg a oedd yn ymwneud â'r byd lletygarwch.

Roedd Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, yn bresennol yn y digwyddiad, a dywedodd: “Gall diffyg sgiliau mathemateg fod yn rhwystr mawr i lawer o ran symud ymlaen â gyrfaoedd, cael dyrchafiad neu wireddu uchelgeisiau bywyd yn gyffredinol.

“Felly, dw i wrth fy modd bod Ynys Môn wedi derbyn cyllid sylweddol gan Lywodraeth y DU i helpu pobl ar draws yr Ynys i wella eu mathemateg yn rhad ac am ddim.

“Fel cyn athrawes mathemateg, mae’r math hwn o fuddsoddiad yn agos iawn at fy nghalon, a dw i'n gwybod y bydd tîm Grŵp Llandrillo Menai yn gwneud y defnydd gorau ohono.”

Dywedodd Alaw Jones, Cydlynydd Ymgysylltu Prosiect Lluosi ar gyfer Ynys Môn: “Mae digwyddiadau fel y rhain gan dîm Lluosi yn dangos nad ydach chi byth yn rhy hen i fynd i’r afael â rhifedd, ac nad ydi rhifedd wedi’i gyfyngu i’r ystafell ddosbarth.”

Rŵan bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cael mynd ar gyrsiau Lluosi yn dilyn newid i’r meini prawf cymhwysedd.

I fod yn gymwys ar gyfer cyrsiau Lluosi trwy Grŵp Llandrillo Menai, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw bod yn 19 oed neu'n hŷn, a byw o fewn siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy neu Ddinbych.

Gall dysgwyr hefyd weithio tuag at gymhwyster Lefel 2, a gall hyn helpu unigolion i symud ymlaen i astudiaethau pellach neu gyflogaeth.

Mae Lluosi yn gweithio gydag unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector, ysgolion, a busnesau bach a mawr. Mae hyblygrwydd y prosiect yn golygu y gellir teilwra cymorth ar gyfer anghenion unigol neu anghenion grŵp. Mae cynnwys y cyrsiau yn eang ac yn hyblyg, a gellir cynnal sesiynau yn ystod yr wythnos, gyda'r nos neu ar benwythnosau.

Mae prosiect Lluosi wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

A hoffech chi wella eich sgiliau mathemateg? I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lluosi, cliciwch yma. I wneud cais e-bostiwch lluosi@gllm.ac.uk, ffoniwch 01492 542 338 neu llenwch y ffurflen ar-lein hon.