Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cerfluniau Mabinogi’r plant yn dod yn fyw yng Ngholeg Menai

Mae’r darlithydd Jane Parry wedi bod yn gweithio gydag Ysgol y Talwrn, a chafodd y disgyblion weld eu gwaith yn cael ei danio yn odyn yr adran gelf

Ymwelodd y plant â Choleg Menai i weld eu cerfluniau o'r Mabinogi yn dod yn fyw.

Defnyddiodd y disgyblion o Ysgol Gynradd y Talwrn, Ynys Môn, glai i greu darnau ceramig yn seiliedig ar gymeriadau o'r chwedlau.

Taniwyd y darnau yn yr odyn yn adran gelf Coleg Menai gyda chymorth y technegydd cerameg Gwyn Williams. Yna cawsant eu gosod mewn cerflun mawr o Bendigeidfran, sydd wedi’i wehyddu o helyg.

Roedd yr ymweliad yn rhan o brosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n rhoi creadigrwydd wrth galon y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Fel rhan o’r prosiect, mae Ysgol y Talwrn yn ymchwilio i weld a yw gweithio gyda deunyddiau a phrosesau 3D yn helpu i ddatblygu sgiliau rhesymu, datrys problemau ac ysgrifennu.

Mae Jane Parry, darlithydd Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, yn gweithio gyda’r ysgol fel rhan o’r prosiect yn ei rôl fel asiant creadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Meddai: “Mae prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol yn dod â chreadigrwydd i addysg prif lif. Rydyn ni mewn lle da yma yn y coleg i ddangos creadigrwydd ar waith i bobl, oherwydd dyna rydyn ni'n ei wneud trwy'r dydd, bob dydd.”

Gweithiodd Alis Branwen Joscelyne, cyn fyfyrwraig ar y cwrs celf sylfaen yng Ngholeg Menai, gydag Ysgol y Talwrn fel ymarferydd creadigol.

Meddai: “Mae Bendigeidfran a’i fyddin wedi cydio yn nychymyg y plant! Maent wedi mwynhau creu'r milwyr (a'u ceffylau) mewn clai a dysgu am y broses cerameg.

“Mae'r cawr ei hun yn greadur deiliog wedi'i wneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau wedi'u fforio - helyg, eiddew, cwyrwialen, cyll... rydyn ni wedi cael llawer o hwyl yn casglu a'i weld yn cymryd siâp.”

Dywedodd Beca Jones, pennaeth Ysgol Gynradd y Talwrn: “Roedd hi’n wych gweithio gydag Alis gan fod ei chreadigrwydd a’i dawn yn dod â syniadau’r plant yn fyw.

“Mae’r prosiect wedi helpu’r plant i ddysgu a chofio stori Branwen mewn ffordd hwyliog ac unigryw, ac mae wedi ysbrydoli eu hysgrifennu creadigol!

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Goleg Menai am ganiatáu i ni ymweld a defnyddio’u cyfleusterau.”

Mwynhaodd y disgyblion daith o amgylch yr adran gelf ym Mharc Menai, gan gwrdd â myfyrwyr a dysgu mwy am brosesau gweithio’n greadigol.

Dywedodd Paul Edwards, Rheolwr y Celfyddydau Creadigol: "Roedd hi'n bleser croesawu Ysgol Gynradd y Talwrn i'r Adran Gelf yng Ngholeg Menai'n ddiweddar. Gwnaeth pawb ddarnau cerameg ardderchog gan ddefnyddio’r odyn, ac mae nifer o artistiaid dawnus yn eu plith!”

Mae prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol yn ymestyn dros 10 wythnos, gan alluogi’r disgyblion i ddychmygu, creu a gwireddu eu syniadau gweledol.

A hoffech chi yrfa mewn Celf a Dylunio? Mae’r sector celf a dylunio yn cynnig llwybr gyrfa cyffrous a llawn posibiliadau i’r rhai sydd â diddordeb mewn creadigrwydd, mynegiant gweledol, a bod yn arbrofol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai.