Sgiliau am Oes - Lluosi
Os ydych yn 19 oed neu’n hŷn, heb TGAU Mathemateg gradd C neu gymhwyster gyfatebol, mae modd i chi fynychu cyrsiau rhifedd yn rhad ac am ddim.
Lluosi
Ydych chi yn cael trafferth efo rhifau? Fasa chi’n hoffi cael cyfle i wella eich sgiliau rhifedd drwy fynychu sesiynau 1 am 1 neu grwpiau bach cyfeillgar? Gall y prosiect Lluosi eich helpu i wneud hyn, a’ch galluogi i ddysgu ar gyflymder sy’n gyfleus i chi.
Os ydych yn 19 oed neu’n hŷn, heb TGAU Mathemateg gradd C (neu gymhwyster gyfatebol) mae modd i chi fynychu cyrsiau rhifedd yn rhad ac am ddim. Cynhelir cyrsiau ar amser a lleoliad sy’n gyfleus i chi, gan gynnwys lleoliadau cymunedol, mewn gweithleoedd neu fel rhan o fenter dysgu fel teulu mewn ysgolion cynradd lleol.
Gall bod yn berchen ar sgiliau rhifedd da arwain at gyfleoedd gwaith a chyflogau gwell neu eich paratoi ar gyfer astudio pellach. Gall helpu efo bywyd pob dydd hefyd, er enghraifft helpu’r plant gyda’u gwaith cartref neu reoli arian.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch lluosi@gllm.ac.uk neu cwblhewch y ffurflen ar-lein hon a ddaw rhywun i gyswllt â chi.
