Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Campysau'r Coleg yn cynnal Diwrnodau Hwyl Cymunedol llawn bwrlwm

Ymunwch â'r hwyl yn y digwyddiadau yn y Rhyl, Llangefni a Phwllheli

Bydd Grŵp Llandrillo Menai yn croesawu cannoedd o bobl i'w Diwrnodau Hwyl Cymunedol ym mis Mai a mis Mehefin.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yng:

  • Ngholeg Llandrillo – Campws y Rhyl: Dydd Sadwrn 18 Mai, 10am – 3pm
  • Coleg Menai - Campws Llangefni: Dydd Sadwrn 15 Mehefin, 11am - 2pm
  • Coleg Meirion-Dwyfor - Campws Pwllheli: Dydd Sadwrn 15 Mehefin, 11am - 2pm

⁠Bydd yn ddiwrnod gwych i'r teulu cyfan ac fe gynhelir llu o weithdai a gweithgareddau cyffrous a fydd yn sicr yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Bydd gweithgareddau hwyliog yn rhoi blas ar y cyrsiau difyr sydd ar gael ar gampysau’r Grŵp, stondinau a gemau gan gwmnïau ac elusennau lleol, a bwyd a diod blasus i dynnu dŵr o ddannedd.

Mae'n gyfle i gael golwg ar y cyfleusterau gwych, cwrdd â staff, gofyn cwestiynau a chael cyngor gyrfaoedd.

Mae’r digwyddiadau am ddim, yn agored i bawb, ac wedi’u hanelu at:

  • Ddisgyblion ysgol a allai fod â diddordeb mewn mynd i'r coleg
  • Rhieni sydd am ymweld â'r campws i weld y cyfleusterau a siarad â'r staff
  • Trigolion lleol sydd â diddordeb mewn gweld beth sydd gan y coleg a gwasanaethau lleol i'w gynnig
  • Pobl sy'n chwilio am waith neu'n meddwl am ddechrau gyrfa newydd
  • Ac yn olaf... teuluoedd sydd am gael diwrnod llawn hwyl!

Felly, ewch draw i'n Diwrnodau Hwyl Cymunedol – chewch chi ddim o'ch siomi!