Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Kseniia, Myfyriwr o Wcráin, yn serennu wrth i luniau syfrdanol Anthony gael eu harddangos

Mae ffotograffau Anthony J Harrison, a raddiodd yn ddiweddar o Goleg Llandrillo, yn dal sefyllfa emosiynol Kseniia Fedorovykh, y ffoadur o Wcráin, sy'n astudio yng Ngholeg Menai.

Bydd ffotograffau trawiadol Anthony J Harrison, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo, o Kseniia Fedorovykh, ffoadur o'r Wcráin, yn cael eu harddangos yn Agored23 yng Nghaernarfon.

Mae'r lluniau, sy'n dangos Kseniia yng nghanol harddwch syfrdanol tirwedd Gogledd Cymru, wedi'u dewis o blith cannoedd o geisiadau i'w harddangos yn yr arddangosfa yn Galeri Caernarfon y gaeaf hwn.

Mae’r ddawnswraig a’r coreograffydd Kseniia, sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru yn dilyn ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin, yn dweud bod lluniau Anthony “yn llawn ystyr” iddi.

Yn un o'r delweddau, yn dwyn y teitl Ymgolli, mae i'w gweld yn gorffwys ar graig anweledig yn Llyn Mymbyr ger Capel Curig, gan roi’r argraff ei bod yn arnofio ar y llyn yn Eryri.

Mae'r ail lun, Cynnal, yn ei dangos ar safle gynnau’r Gogarth yn Llandudno, i bob golwg yn dal un o strwythurau’r Ail Ryfel Byd uwch ei phen, a godre mynyddoedd y Carneddau yn y cefndir.

“Mae gen i fam, chwaer a brawd yn ôl yn yr Wcráin, ac roedd hi’n anodd iawn i mi wneud y penderfyniad i’w gadael,” meddai Kseniia, sy’n astudio Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ar gampws Coleg Menai ym Mangor.

“Ond dwi’n poeni mwy amdanyn nhw, achos nhw, nid fi, sydd mewn perygl.

“Yn y llun Ymgolli, rwyf yn ceisio dod o hyd i le diogel a chyfforddus i mi fy hun, fel miliynau o bobl o'r Wcráin. Pan fyddaf yn edrych ar y llun hwn rwy'n teimlo'n unig, yn siomedig, wedi fy ynysu.

Mae Cynnal yn ymwneud â fy nheimladau mewnol, am y baich o gysylltu Cymru dawel, heddychlon, ddiogel, gyda’i therfynau cyflymder o 20 milltir yr awr, gyda meddyliau cyson am gyrchoedd awyr, yr ansicrwydd ynghylch a fydd eich anwyliaid yn deffro yn y bore, ac â newyddion am nifer o farwolaethau ac anafiadau newydd.”

Mae'r lluniau, a fydd yn cael eu harddangos yn Agored 23 rhwng Rhagfyr 2 ac Ionawr 27, yn rhan o gydweithio ehangach rhwng Kseniia ac Anthony, o dan y teitl Dadleoli, sy'n cynnwys mwy o ddelweddau a dynnwyd o amgylch Gogledd Cymru.

Dywedodd Anthony, a gwblhaodd ei BA (Anrh) mewn ffotograffiaeth ar gampws Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos, yr haf hwn: “Roedd y lluniau wedi’u bwriadu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn bennaf, fel ffyrdd diddorol a phwerus i ni allu adrodd stori rhywun sydd wedi gorfod delio â rhywbeth anodd iawn.

"Gyda Cynnal, roeddwn i eisiau rhywle a oedd yn fath o adfail fel adlewyrchiad o'r hyn sy'n digwydd yn yr Wcráin. Mae fel bod Kseniia yn dal pwysau'r byd rhag ei gwasgu, gan gyfleu pa mor anodd yw hi i ddelio â'r pethau sydd ar ei meddwl ar hyn o bryd.

“Mae gennych chi hefyd y cefndir hardd fel cyferbyniad rhwng golau a thywyllwch, hapusrwydd a thristwch.”

Cafodd y lluniau Dadleoliad gan Anthony eu harddangos yn Oriel Colwyn yn gynharach eleni. ⁠ Mae'n gwerthu printiau o'r delweddau i helpu i godi arian ar gyfer prosiectau yn yr Wcráin.

Roedd y ffotograffau hefyd yn rhan o asesiad Anthony ar gyfer blwyddyn olaf ei radd. Gradd y cychwynnodd arni ar ôl penderfynu newid gyrfa yn ystod y pandemig.

“Roedd gen i yrfa mewn manwerthu,” meddai’r dyn 53 oed o Lanelwy. “Roeddwn i’n rheolwr archfarchnad oedd â throsiant o £9m. Cymerais ddiswyddiad, a roddodd gyfle i mi ailgychwyn.

“Roedd ffotograffiaeth wedi bod yn hobi i mi erioed, ond roeddwn i eisiau gwneud gyrfa ohono, ac roeddwn i hefyd eisiau dilysu hynny trwy wneud y radd Sylfaen ac yna'r BA. Roeddwn i’n gwybod llawer am gamerâu, yr agweddau technegol, ond doeddwn i ddim yn gwybod cymaint am ffotograffiaeth, a dyna beth roeddwn i eisiau ei ddysgu.”

Dyma lle daeth y darlithwyr yng Ngholeg Llandrillo i mewn - yn enwedig Tim Williams a Geoff Wedge.

“Dysgais am hanes ffotograffiaeth, ac o dan ddylanwad y tiwtoriaid dechreuais weld ffotograffiaeth mewn ffordd hollol newydd,” meddai Anthony.

“Roedd gallu Tim Williams yn yr ystafell dywyll yn anhygoel, ac roedd ei ddealltwriaeth o ffotograffiaeth yn fy nylanwadu i fod eisiau bod yn well.

“Roedd Geoff Wedge fel gwyddoniadur ffotograffiaeth - gallai ddyfynnu unrhyw un. Byddai'n edrych ar fy ngwaith ac yn syth byddai'n gallu ei roi yn ei gyd-destun a dweud, edrycha ar waith hwn a hwn neu'r llall a'r llall. Fe wnaeth y ddau fy helpu i gael llawer mwy allan o ffotograffiaeth.

“Roedd y penderfyniad i ddod yn ôl i addysg yn beth mawr i mi, ond rydw i mor falch fy mod wedi gwneud y naid.”

Bydd gwaith Anthony J Harrison yn cael ei arddangos yn rhan o Agored23 yn Galeri Caernarfon, rhwng Rhagfyr 2 ac Ionawr 27. I weld mwy o waith Anthony, ewch i'w wefan www.anthonyharrison.co.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Ffotograffiaeth yng Nghrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.