Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn lansio cyrsiau rhifedd rhad ac am ddim

Bwriad buddsoddiad o £4.8 miliwn mewn rhifedd oedolion yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych yw gwneud mathemateg yn symlach i bawb.

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi lansio gwasanaeth newydd gyda'r nod o helpu unigolion i wella eu sgiliau mathemateg a dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio rhifau.

Mae rhaglen 'Lluosi', a lansiwyd fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn cynnwys cyfle i drafod a chanfod eich lefel sgiliau rhifedd, ac ystod eang o gyrsiau rhifedd sy'n addas ar gyfer y rhai sydd eisiau ychwanegu at eu dealltwriaeth sylfaenol o fathemateg, neu unigolion sydd eisiau cyrraedd lefel TGAU Mathemateg.

Mae’r cyrsiau'n rhad ac am ddim ac ar gael i unigolion 19 oed a hŷn, sydd heb TGAU gradd C mewn Mathemateg (neu gymhwyster cyfwerth), ac sy’n byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy neu Ddinbych.

Gall aelodau grwpiau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau'r trydydd sector neu fusnesau fanteisio ar y cyfleoedd hefyd. Bydd unigolion yn dysgu dan eu pwysau eu hunain - un ai mewn sesiynau un-i-un neu fel rhan o grŵp bach cyfeillgar. Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol, mewn gweithleoedd neu fel rhan o gynlluniau dysgu i deuluoedd mewn ysgolion lleol ar draws y pedair sir.

Yn ystod mis Hydref, bydd tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai'n lansio'r prosiect drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau Lluosi ar Daith yn y pedair sir.

Meddai Sioned Williams, Rheolwr Prosiect Lluosi yng Ngrŵp Llandrillo Menai:

"Mae Lluosi yn rhaglen hyfforddi sgiliau arloesol, a'i bwriad yw helpu pobl i wella eu dealltwriaeth a'u defnydd o fathemateg yn eu bywyd bob dydd, gartref ac yn y gwaith”

Ychwanegodd,

“Os oes unrhyw un eisiau gwella eu sgiliau rhifedd er mwyn rhoi hwb i'w gyrfa neu astudiaethau pellach, baswn yn eu hannog i gysylltu â ni neu alw heibio un o'r lleoliadau uchod i gael gwybod rhagor am y cynllun."

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at lluosi@gllm.ac.uk neu llenwch y ffurflen ar-lein hon ac fe fydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi.

Mae’r prosiect ‘Rhifedd am Oes/Lluosi’ wedi derbyn £4.8 miliwn o gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ac fe’i cefnogir gan Gyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych.