Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ehangu Cyllid Sero Net i Fusnesau Gogledd Cymru

Cynllun arloesol i gefnogi busnesau bach, canolig a micro yng ngogledd Cymru i arbed carbon yw'r Academi Ddigidol Werdd a diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mae wedi cael ei ehangu i 180 o gwmnïau newydd.


Cafodd yr Academi Ddigidol Werdd ei threialu yng Ngwynedd a Môn gan Busnes@LlandrilloMenai a bellach mae wedi cael cyllid ychwanegol i gefnogi mwy fyth o fusnesau yn siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych a'r Fflint. Gweithiodd dros 50 o fusnesau gydag ymgynghorwyr ym maes Ynni a Chynaliadwyedd i lunio 'cynllun sero net' a oedd wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer eu busnes ac a oedd yn esbonio pa gamau roedd angen iddynt eu cymryd er mwyn cyrraedd y nod o fod yn 'sero net'.

Roedd Grŵp Mona ymhlith y cwmni cyntaf i gael budd o'r prosiect fel yr eglura Gethin Rees Jones, eu Swyddog Gweithrediadau:

“Roedd y cwmni wedi bod yn ystyried gosod paneli solar ffotofoltaig ond galluogodd y gefnogaeth a'r wybodaeth a gawsom gan yr Academi Ddigidol Werdd ni i edrych eto ar y data a dod i ddeall ein hôl troed carbon presennol. Dylanwadodd hynny yn ei dro ar ein penderfyniad i ymroi i'r buddsoddiad.

“Gyda help y prosiect rydym yn awr yn cynllunio buddsoddiadau pellach. Mae'r datblygiadau sydd gennym ar y gweill yn cynnwys pwyntiau gwefru trydan, amrywio ein cerbydau fflyd a gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i roi technolegau adnewyddadwy eraill ar waith i ategu'r paneli solar.”

Esbonia Donna Hodgson, Rheolwr Academi Ddigidol Werdd Busnes@LlandrilloMenai:

“Rydym yn edrych ymlaen at y cam uchelgeisiol nesaf hwn yn hanes yr Academi Ddigidol Werdd, gyda phum prosiect newydd yn cael eu rhoi ar waith yn y rhanbarth. Gwyddom o'r treial gymaint o fudd mae busnesau wedi ei gael o'r rhaglen.

“Yn awr bydd Busnes@LlandrilloMenai yn canolbwyntio at sicrhau bod busnesau ledled gogledd Cymru yn rhannu'r buddion hyn a bod yr Academi Ddigidol Werdd yn cyfrannu tuag at greu cymuned o fusnesau sy'n ymwybodol a'r amgylchedd ac i gyd yn gweithio tuag at ddyfodol sero net.”

⁠Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. I gael gwybod rhagor am yr Academi Ddigidol Werdd neu i fynegi diddordeb, ymwelwch â Academi Ddigidol Werdd.