Myfyrwyr yn paratoi ar gyfer Gweithdy
Cafodd bron i 150 o fyfyrwyr Gwaith Brics, Plymwaith, Trydanol, Gwaith Asiedydd a Phlastro Coleg Llandrillo - cymysgedd o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf hyd at fyfyrwyr gradd - gyfle yn ddiweddar i loywi eu sgiliau wrth fynychu cyfres o gyflwyniadau a roddwyd gan gynrychiolwyr o un o gynhyrchwyr offer mwyaf blaenllaw Ewrop ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.
Roedd Oliver Partington, Cyfarwyddwr Gwerthu Stabilia yn y DU, wrth law i rannu gwybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am ddatblygiadau cyffrous iawn yn y diwydiant adeiladu. Cafodd staff y coleg hefyd gyfle i ddysgu am dechnegau a chynnyrch newydd sy'n cael eu datblygu ar gyfradd syfrdanol. Mae Stabila yn wneuthurwr byd-enwog a nodedig o offer mesur o'r ansawdd uchaf.
Dywedodd Jeff Price, Tiwtor Adeiladu Coleg Llandrillo: “Hoffwn ddiolch unwaith eto i Oliver am ymweliad hynod ddiddorol ac addysgiadol i Goleg Llandrillo yma yn Llandrillo-yn-Rhos. Mantais cael cefnogaeth partner masnachol ydy bod myfyrwyr yn cadw cysylltiad â'r byd go-iawn, ac mae'n dangos ymroddiad gwirioneddol cwmni blaengar i ddyfodol y diwydiant adeiladu."
Ychwanegodd Oliver Partington: "Hoffwn ddiolch i bawb yng Ngholeg Llandrillo am y croeso cynnes. Roedd yn ddiwrnod gwych mae'r myfyrwyr yn glod i bob un ohonoch. Mwynheais y profiad yn fawr ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gefnogi’r Coleg eto yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Adeiladu yng Ngholeg Llandrillo, ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.
E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk
Gwefan: www.gllm.ac.uk