Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hyfforddwr Pêl-droed o UDA yn Rhannu ei Arbenigedd gyda Myfyrwyr Coleg

Yn ddiweddar, dychwelodd hyfforddwr pêl-droed o UDA sydd â chysylltiadau â Chymru, i’w famwlad i rannu ei arbenigedd gyda myfyrwyr Dolgellau.

Daeth Tom Bowen, sy’n wreiddiol o Aberdyfi ond sydd bellach yn brif hyfforddwr tîm pêl-droed y Long Island Rough Riders, draw i rannu ei arbenigedd gyda myfyrwyr Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Coleg Meirion-Dwyfor ar gampws Dolgellau.

Mae tîm Long Island Rough Riders yn South Huntington, Efrog Newydd. Wedi'i sefydlu ym 1994, mae'r tîm yn chwarae yng Nghynghrair Dau USL, pedwaredd haen pyramid pêl-droed America.

Mae gan Tom gysylltiadau cryf iawn â’r ardal, ac â Choleg Meirion-Dwyfor yn arbennig: mae ei dad yn gweithio yn y coleg, a’i fam yn gyn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Tywyn.

Enillodd Tom ei radd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Gwyddor Ymarfer Corff o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2012. Ar ôl adleoli i UDA, aeth ymlaen i ennill MBA o Brifysgol Long Island yn 2016, ac mae ar hyn o bryd yn dilyn gradd Meistr yn y Celfyddydau mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Adelphi yn Efrog Newydd.

Dywedodd Simon John Evans, Pennaeth Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored ar gampws Dolgellau: "Roedd yn fraint cael croesawu Tom i'r coleg yn ddiweddar. Mae gan Tom stori wych i'w rhannu, sy'n dangos i'n myfyrwyr bod modd mynd yn bell a chyflawni cymaint wrth ddilyn cyrsiau chwaraeon. Mae’r cyfleoedd rydyn ni’n eu cynnig i’n myfyrwyr ar y cwrs hwn yn eang ac yn berthnasol i’w hastudiaethau.”

Ychwanegodd: "Os oes gennych chi ddiddordeb mewn chwaraeon fel pêl-droed, pêl-rwyd neu rygbi, neu rywbeth o fewn y maes gweithgareddau awyr agored, mae'r cwrs yn addas i chi. Fel y gwelwch o'r teitl, mae'n cwmpasu'r ddau lwybr gyrfa! Felly, yn eich aseiniadau Iechyd a Diogelwch, gallwch ymchwilio i'r ganolfan hamdden leol (Canolfan Glan Wnion), neu ddarparwr gweithgareddau awyr agored lleol fel Glan-llyn."

Os hoffech chi ddysgu mwy am ein cyrsiau Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ewch i www.gllm.ac.uk