Miloedd yn ymweld â Choleg Glynllifon yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon.
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi tyfu i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, gyda Choleg Glynllifon yn chwarae rhan ganolog yn llwyddiant yr ŵyl.
Daeth miloedd drwy ddrysau lloc anifeiliaid Coleg Glynllifon yn ystod y digwyddiad, oedd yn gyfle gwych i ddangos yr hyn sydd gan y coleg i’w gynnig.
Meddai Rhodri Manon Owen, Rheolwr Fferm Glynllifon.
"Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn un o uchafbwyntiau blynyddol y coleg. Mae’n gyfle gwych i ni ddangos i’r gymuned ehangach yr holl gyfleoedd sydd ar gael yn y coleg. Mae gwneud y cysylltiad rhwng byd amaeth a’r diwydiant bwyd hefyd yn hynod o bwysig. "
Ychwanegodd.
"Gyda Glynllifon yn tyfu i fod yn un o'r canolfannau astudio diwydiannau tir pwysicaf yng Nghymru gyfan, mae creu'r cysylltiadau ehangach hynny yn bwysig iawn i ddyfodol y coleg."
Yn ystod y dydd cafwyd arddangosfa gneifio gan un o staff y coleg, Elfed Jackson, sy’n gyn-bencampwr cneifio’r byd.
Roedd cyfle hefyd i blant a phobl ifanc wneud gweithgareddau coedwigaeth a gofalu am anifeiliaid bach yn ystod y dydd.
Mae buddsoddiadau diweddar ar y fferm yn cynnwys y tŷ crwn gwartheg ac uned foch o’r radd flaenaf.
Mae gan y campws hefyd ganolfan astudiaethau anifeiliaid, canolfan beirianneg a choedwig a melin lifio.
Mae'r bloc addysgu o'r radd flaenaf yn darparu cyfleusterau cyfoes ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ystafelloedd TG, ynghyd â llyfrgell a chanolfan adnoddau, darlithfa fawr, dwy ystafell bwrpasol ar gyfer anifeiliaid egsotig a'r cwrs nyrsio milfeddygol.