Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn cyflwyno car rasio F1 mewn Ysgolion i'r noddwr

Meirionnydd Masterclass wnaeth yr arwydd o ddiolch i'r noddwr Automax Sport o Ddolgellau

Cyflwynodd myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor eu car rasio F1 mewn Ysgolion i gwmni lleol Automax Sport fel diolch am noddi eu tîm.

Mae Math Hughes, Guto Roberts a Sion Roberts yn astudio Peirianneg Uwch Lefel 3 ar gampws Dolgellau.

Buont yn cystadlu fel tîm ‘Meirionnydd Masterclass’ yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn ddiweddar, ar ôl dod at ei gilydd 'nôl ym mis Medi i ddechrau gweithio ar eu car.

Cymerodd Math rôl y rheolwr prosiect, tra bo Sion yn beiriannydd dylunio a Guto yn beiriannydd gweithgynhyrchu. ⁠ ⁠

Fe ddylunion nhw, ynghyd â thimau eraill o’r coleg, eu ceir gan ddefnyddio pecyn dylunio â chymorth cyfrifiadur Fusion 360, cyn gweithgynhyrchu’r cerbydau ar beiriant melino CNC Denford.

Yna buont yn rasio'r ceir yn rhagbrofion Gogledd Cymru yng Nghanolfan Hamdden Dinbych, gan gystadlu yn erbyn timau o ysgolion uwchradd ar draws Gogledd Cymru.

Llwyddodd Meirionnydd Masterclass i ennill nawdd gan Sion Ellis o Automax Motorsport, cwmni cyflenwadau chwaraeon moduro yn Nolgellau.

Fel arwydd o werthfawrogiad am ei gefnogaeth i gytuno i fod yn unig noddwr iddynt, aeth Math, Guto a Sion i ymweld â Sion yn Automax i gyflwyno copi o’u car rasio iddo.

Meddai'r darlithydd peirianneg Emlyn Evans: “Fel coleg rydym yn falch o gyflawniadau ein myfyrwyr a’u cyfranogiad mewn digwyddiadau cystadleuol sy’n dangos eu sgiliau peirianneg i’r safonau uchaf.

“Hoffem ddiolch i Mr Ellis am ei gyfraniad a’i nawdd i’r tîm gan ganiatáu iddynt gymryd rhan yng nghystadleuaeth F1 mewn Ysgolion Gogledd Cymru ar 1 Chwefror 2024.”

Llwyddodd tîm 'Come and Go', sy'n cynnwys myfyrwyr peirianneg o Goleg Meirion-Dwyfor, campws Hafan Pwllheli, i sicrhau'r ail safle yn rowndiau rhagbrofol Gogledd Cymru, a lle yn rownd derfynol F1 mewn Ysgolion yn Rotherham yr wythnos hon.

Sefydlodd y tîm dudalen GoFundMe, gyda’r nod o gasglu £1,500 i gystadlu yn y digwyddiad yn Rotherham ar 13 ac 14 Mawrth.

Os hoffech chi roi cyfraniad i'r Tîm 'Come and Go', ewch i'r dudalen GoFundMe hon

Mae cystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn rhan annatod o’r cwrs Peirianneg Uwch, gyda myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn cystadlu fel rhan o fodiwl Uned 2, Cyflwyno Prosiect Peirianneg yn Ddiogel fel Tîm.

Meddai Emlyn Evans: “Mae'r dysgwyr yn cael profiad o'r prosiect heriol ac atyniadol hwn wrth astudio ar y cwrs.

“Gallwn weld y twf yn yr unigolion wrth iddynt gydweithio i ddylunio a rasio’r car yn y gystadleuaeth. Mae eu sgiliau cyfathrebu, cyflwyniadau portffolio, ymwybyddiaeth ariannol a sgiliau menter i gyd yn cael eu profi i’r eithaf.”

⁠Gallwch bellach wneud cais am y cwrs BTEC Lefel 3 Peirianneg Uwch ym Mhwllheli a Dolgellau drwy ddefnyddio'r ddolen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, gyrrwch e-bost at Emlyn Evans: evans12e@gllm.ac.uk