Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr yn Dweud eu Dweud yng Nghynhadledd Flynyddol y Dysgwyr

Daeth dysgwyr o gampysau Grŵp Llandrillo Menai ynghyd i weithio ar ymgysylltiad y sefydliad â'i dysgwyr.

Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol y Dysgwyr o Grŵp Llandrillo Menai ar safle Coleg Menai yn Friars, dydd Llun 26 Chwefror.

Daeth dros wythdeg o fyfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch o Goleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai i'r sesiwn diwrnod o hyd.

Rhoddodd y gynhadledd lwyfan i’r dysgwyr rannu eu barn a’u profiadau o fywyd yn y coleg, a chyfle i siarad ag uwch aelodau o staff ynghylch unrhyw syniadau a allai fod ganddynt i wella’r gweithgareddau a’r cyfleusterau sydd ar gael yn y coleg.

Cafodd dysgwyr hefyd gyfle i ddweud eu dweud ar set o Werthoedd Grŵp Llandrillo Menai yn y dyfodol, trwy sesiwn bleidleisio ryngweithiol.

Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Ann Williams, Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn Senedd Cymru, a rhoddodd ei sesiwn gipolwg ar rôl y Senedd a sut y gallai’r dysgwyr wneud gwahaniaeth. Cyflwynodd Frankie Mairs, Codwr Arian Rhanbarthol ar gyfer Shelter Cymru, weithdy rhyngweithiol hefyd ar ddigartrefedd yng Nghymru a sut y gallai dysgwyr gefnogi gweithgareddau codi arian

Roedd cyn Lywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor Deio Owen - sydd bellach yn Is-lywydd y Gymraeg, y Gymuned a Diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd - hefyd yn bresennol yn y Gynhadledd. Trafododd Deio ei rôl bresennol gyda’r Brifysgol a sut y gall Undeb y Myfyrwyr gefnogi eu profiad dysgu yn ystod eu cyfnod yn astudio gyda ni.

Ychwanegodd Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr:

“Roedd cynhadledd y dysgwyr eleni yn canolbwyntio ar Ymgysylltu â Dysgwyr, agwedd hanfodol i'r dysgwyr yn ystod eu cyfnod yma gyda ni. Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r adborth a'r syniadau a gynigiwyd gan y rhai a fynychodd y gynhadledd i helpu i siapio'r ffordd rydym yn sgwrsio â dysgwyr a'u cael i gymryd rhan. Roedd cynnal gweithgaredd yn ymwneud â gwerthoedd yn werthfawr iawn ynghyd a'r cyfle i glywed eu persbectif ar ba werthoedd sydd o bwys iddynt a pham.

Roedd hefyd yn wych gallu addysgu ein dysgwyr ar sut mae Shelter Cymru yn cefnogi pobl ledled Cymru gyda’u hanghenion tai – boed hynny'n unigolion gyda phroblemau morgais neu rai sy'n wynebu digartrefedd. Hoffwn ddiolch i'r holl ddysgwyr a fynychodd y Gynhadledd i Ddysgwyr am eu cymorth i lunio gwerthoedd y Grŵp yn y dyfodol. Rwyf hefyd am ddiolch i’r holl staff a sefydliadau partner am eu cefnogaeth i sicrhau ei fod yn ddigwyddiad cynhyrchiol a llwyddiannus.”

Ychwanegodd Frankie Mairs o Shelter Cymru “ Cawsom ddiwrnod gwych yng Nghynhadledd Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai, dyma'r ail flwyddyn i ni ddod fel partneriaid elusennol. ⁠ Mae bob amser yn ddiwrnod mor drefnus, ac mae'n wych gweld y dysgwyr yn cymryd rhan ac yn defnyddio'u llais i baratoi'r ffordd ar gyfer newid. Diolch yn fawr am ein gwahodd ni.”

Dywedodd Ann Williams o Senedd,

“Roedd yn gyfle gwerthfawr i'r Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru godi ymwybyddiaeth o'r ffyrdd mae gwaith y Senedd yn cael effaith ar ein bywyd bob dydd. Mi wnaethon ni ganolbwyntio ar sut gall pobl ifanc gymryd rhan a lleisio barn.

“Yn ystod y sesiynau trafodwyd rhai o'r materion sy'n cael eu trafod yn y Senedd ar hyn o bryd a dysgwyd ragor am y broses o basio cyfreithiau. Roedd yna hefyd gyfle i ddysgu pa mor bwysig ydy hi i bobl ifanc bleidleisio, a lleisio eu barn ar faterion amrywiol drwy Senedd Ieuenctid Cymru”