Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Evan yn gwneud argraff ar ddylunwyr gemau llwyddiannus

Cafodd myfyrwyr y cwrs Lefel 3 mewn Datblygu Gemau yng Ngholeg Llandrillo gyfle i gwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant – a chynigiwyd cyfle cyffrous i un ohonynt

Cynigiwyd mentoriaeth werthfawr iawn i Evan Meehan ar ôl i weithwyr proffesiynol o’r diwydiant gemau ymweld â Choleg Llandrillo.

Mae Evan, o Lanfairpwll, yn dilyn y cwrs Lefel 3 mewn Datblygu Gemau ar gampws Llandrillo-yn-Rhos gan ei fod wedi rhoi ei fryd ar gael gyrfa’n dylunio lefelau mewn gemau.

Mae bellach yn cael adborth ar ei waith gan Mark Gregory, dylunydd i Flix Interactive sydd wedi gweithio ar gemau poblogaidd fel ‘Sea of ​​Thieves’.

Roedd Mark yn un o dri siaradwr gwadd a wahoddwyd i siarad â dysgwyr y cwrs Datblygu Gemau. Ymunodd y dylunydd technegol Stuart Ralphson ag ef, sydd hefyd yn gweithio i Flix International, ynghyd â Modie Shakarchi sy’n rhaglennydd i gwmni Rebellion.

Buont yn siarad â’r myfyrwyr am sut beth yw gweithio yn y diwydiant gemau, a rhoi awgrymiadau iddynt ar eu gwaith cwrs a chyngor ar sut i wneud i'w portffolios sefyll allan.

Cynigiwyd cyfnod o fentora i Evan ar ôl iddo ddangos gêm i Mark, o'r enw 'Hotel of Shadows’ y mae ef a phedwar o'i gyd-fyfyrwyr yn gweithio arni.

“Mae'n mynd i fy nysgu sut i ddylunio lefelau am ddau fis,” meddai Evan. “Dw i’n hynod o lwcus. O'r hyn dw i wedi'i glywed mae'n anodd iawn cael mentoriaeth a dw i’n teimlo’n gyffrous iawn.

“Dw i isio dylunio lefelau ar gyfer fy mhrosiect mawr terfynol. Os galla i ddatrys rhai problemau gyda'r gêm rydyn ni'n ei datblygu, dywedodd Mark y byddwn i’n gallu cael fy mentora ganddo.

“Gallai fod o help mawr i mi yn y dyfodol. Mae mentoriaeth yn gallu arwain at brentisiaeth, a bydd ar fy CV hefyd bod dylunydd gemau safon AAA wedi fy mentora.”

Defnyddir y term 'AAA' yn y diwydiant gemau i ddynodi gemau sydd â chyllideb a phroffil uchel.

Dywedodd Evan: “Mae'r siaradwyr gwadd i gyd yn ddatblygwyr gemau safon AAA felly nhw yw'r goreuon ac mae’r cyfan yn hynod o gyffrous. Does wybod i ble y gallai hyn arwain!”

Mae Kimi Calkin, o'r Wyddgrug, hefyd yn astudio’r cwrs Lefel 3 mewn Datblygu Gemau a dywedodd fod yr ymweliad wedi rhoi awgrymiadau defnyddiol iddo ynghylch sut y gallai wella ei waith codio a'i ragolygon swyddi yn y dyfodol.

“Dw i wedi mwynhau siarad â'r datblygwyr gemau AAA,” meddai Kimi. “Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn deall beth sydd angen i mi ei roi yn fy mhortffolio, a dw i wedi cael dealltwriaeth dda iawn o sut i'w strwythuro.

“Dw i hefyd wedi cael syniad da o sut y galla i wella, a sut y galla i ymarfer fy ngwaith codio.”

Pan ofynnwyd iddo am y cwrs Datblygu Gemau, dywedodd Kimi: “Dw i’n hoffi’r cwrs. Mae’n well gen i weithio ar yr ochr ymarferol yn hytrach na'r theori, felly dw i’n mwynhau natur ymarferol y cwrs.”

Yn y cyfamser, rhoddodd y gweithwyr proffesiynol o'r diwydiant adborth ardderchog ar y ddarpariaeth Datblygu Gemau yng Ngholeg Llandrillo.

Dywedodd Arweinydd y Rhaglen, Rob Griffiths: “Roedd y cwrs a’r cyfleusterau sydd ar gael i'r myfyrwyr wedi creu argraff arnyn nhw.

“Roedden nhw hefyd wedi'u plesio gyda'r gwaith oedd yn cael ei arddangos, yn enwedig y gwaith celf. Roedden nhw hefyd yn falch o weld yr amrywiaeth ymhlith ein myfyrwyr, gan fod hyn yn aml yn broblem yn ein sector ni.”

A hoffech chi gael gyrfa heriol yn y diwydiant gemau a chyfryngau newydd? Cliciwch yma i ddysgu mwy am y Diploma Lefel 3 mewn Animeiddio 3D a Datblygu Gemau yng Ngrŵp Llandrillo Menai.