Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn cystadlu mewn cychod a adeiladwyd ganddyn nhw

Ar ôl adeiladu dingis yng ngweithdy Peirianneg Forol Coleg Llandrillo cafodd dysgwyr y cyfle i'w rasio yn erbyn ei gilydd oddi ar arfordir Ynys Môn

Aeth myfyrwyr ysgol ar y Fenai i rasio'r cychod a adeiladwyd ganddynt fel rhan o'u cwrs yng Ngholeg Llandrillo.

Yn ystod y daith flynyddol i Ganolfan Conwy yn Llanfairpwll bu'r dysgwyr, sydd i gyd ym Mlwyddyn 11, hefyd yn dysgu sut i yrru cychod pŵer.

Mae’r digwyddiad yn benllanw cwrs Lefel 1 Cyflwyniad i Adeiladu Cychod, sy’n rhan o ddarpariaeth 14-16 Grŵp Llandrillo Menai.

⁠Yn ystod y flwyddyn, mae'r myfyrwyr yn mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos, gan ddysgu hanfodion adeiladu cychod a saernïo eu cychod eu hunain yn y gweithdy Peirianneg Forol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.

Maent hefyd yn dysgu am y diwydiant, gyda llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio Peirianneg Forol ar Lefelau 2 a 3, ac yna'n sicrhau swyddi sy'n talu'n dda.

Rhannwyd carfan eleni yn ddau dîm, ac yn ystod y flwyddyn adeiladodd y timau eu cychod 'Black Pearl' a 'White Diamond' o epocsi gwydr ffibr a phren haenog. Yna cafodd y cychod eu rhoi ar brawf oddi ar arfordir Ynys Môn, a daeth yn amlwg mai Black Pearl oedd yr enillydd.

Dywedodd Jim Lehane, goruchwyliwr ymarferol yng Ngholeg Menai: “Mae’r ddau dîm wedi bod yn gystadleuol iawn drwy gydol y flwyddyn, gyda'r ddau dîm yn ceisio adeiladu eu cwch yn well na’r llall. Heddiw oedd penllanw’r holl waith caled hwnnw.”

Fel rhan o'r cwrs, mae'r myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ennill cymhwyster Cyflwyniad i Gychod Pŵer y Gymdeithas Hwylio Frenhinol, diolch i gysylltiadau'r coleg â Chanolfan Conwy.

Roedd hyn yn rhan o'r digwyddiad blynyddol yn Llanfairpwll, gyda'r myfyrwyr yn dysgu sut i yrru cwch yn ddiogel mewn lleoedd cyfyng ac ar gyflymder mewn dŵr agored.

Roedd dysgwyr eleni yn hanu o Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol y Creuddyn, Ysgol Bryn Elian ac Ysgol John Bright.

Dywedodd Ewan Renshaw, myfyriwr yn Ysgol y Creuddyn, mai’r peth gorau am y cwrs oedd “rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac adeiladu cwch”.

“Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gwneud hynny,” meddai Ewan, sy’n gobeithio astudio’r cwrs Lefel 2 ym mis Medi. “Rwy’n edrych ymlaen at wneud y cwrs y flwyddyn nesaf a gobeithio y byddaf yn mynd ymlaen i weithio ym maes peirianneg forol.”

Meddai Helga Dodwell, hyfforddwr Dysgu yn Ysgol John Bright: “Mae'r coleg, drwy'r rhwydwaith 14-16, yn cynnig darpariaeth wych.

“Mae’r ddau o’n myfyrwyr ni yn mynd ymlaen i wneud y cwrs Lefel 2 ym mis Medi. Pe na bai’r cwrs hwn ar gael, mae'n debyg na fydden nhw wedi clywed am beirianneg forol. Maen nhw wrth eu boddau efo'r cwrs, maen nhw wedi gwirioni hefo fo.”

Roedd y Cynghorydd Hannah Fleet, Maer Bae Colwyn, yn gwylio'r digwyddiad a ddywedodd: “Mae’n bleser bod yma. Mae'n wych gweld y fath gymhelliant gan y myfyrwyr.

“Mae’r cydweithio rhwng ein hysgolion a’r coleg wedi rhoi cyfle iddynt archwilio maes peirianneg na fyddent efallai yn gwybod amdano fel arall.

“Mae'n wych clywed bod cymaint yn cael eu hysbrydoli i barhau â'r lefel nesaf o beirianneg forol. Mi gawson ni hefyd glywed am y gyrfaoedd cyffrous y mae myfyrwyr blaenorol wedi cael mynediad iddynt o ganlyniad.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n defnyddio’r hyn sydd gennym ni yma yng Ngogledd Cymru, bod ein plant yn gallu manteisio ar yr ardal rydyn ni’n byw ynddi a dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo.”

Meddai Gavin Jones, Rheolwr y Maes Rhaglen Adeiladwaith yng Ngholeg Llandrillo: “Roedd y daith undydd i Ganolfan Conwy yn brofiad gwych i’n carfan 14-16 oed. Roedd yn werth chweil gweld dysgwyr yn dod yn frwdfrydig ac yn ymgysylltu, yn dysgu sgiliau newydd ac yn gweithio fel tîm.

“Mae’r Adran Peirianneg Forol ac Adeiladu Cychod yng Ngholeg Llandrillo yn cynnig ystod o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn, a all arwain at yrfaoedd gwych yn y diwydiant morol wrth i ni weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol a rhai mawr rhyngwladol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan, neu cysylltwch â ni!"

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Technoleg Forol? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai