Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr yn anelu'n uchel gyda thaith i ffatri offer dringo

Aeth disgyblion ysgol sy'n dilyn cwrs Lefel 2 mewn Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor i ymweld â ffatri DMM yn Llanberis, tref sy'n ganolbwynt i weithgareddau awyr agored

Cafodd y disgyblion eu hysbrydoli gan yr ymweliad â’r ffatri yn Eryri a gweld sut mae offer dringo yn cael eu cynhyrchu.

Mae dysgwyr y cwrs BTEC Lefel 2 mewn Peirianneg Gyffredinol, a gynigir gan Goleg Meirion-Dwyfor fel rhan o'i ddarpariaeth i ysgolion, wedi bod yn astudio'r carabiner Alpha Wire a gynhyrchir gan y gwneuthurwr lleol, DMM.

Fel rhan o'u cwrs ymwelodd y dysgwyr â ffatri'r cwmni yn Llanberis, tref sy’n ganolbwynt i weithgareddau awyr agored, a buont yn gwylio'r broses o gynhyrchu a phrofi'r carabiner.

Dywedodd Emlyn Evans, darlithydd peirianneg ac arweinydd rhaglen y cwrs Lefel 2 i rai 14-16 oed: “Mae’r dysgwyr sydd ar flwyddyn gyntaf y cwrs yn astudio’r carabiner Alpha Wire fel rhan o’r modiwl ‘Ymchwilio i gynnyrch peirianneg’.

“Mae cael cwmni lleol fel DMM, sydd wedi bod yn cynhyrchu offer yng Nghymru ers dros 40 mlynedd a’i ddosbarthu ledled y byd, yn gaffaeliad mawr i ni fel addysgwr yn y sector peirianneg.

“Fel arfer, ein hymweliad blynyddol â DMM yw’r cyfle cyntaf y mae’r dysgwyr wedi’i gael i weld ffatri wrth ei gwaith. Rydyn ni mor ddiolchgar i DMM am y cyfle i gydweithio â nhw ac am fynd â’r dysgwyr drwy bob cam o weithgynhyrchu a phrofi eu carabiners, yn barod i’w hanfon ledled y byd.”

Aeth Chris Rowlands, rheolwr allforio DMM, â'r disgyblion o Ysgol Botwnnog, Ysgol Eifionydd ac Ysgol Glan y Môr, o amgylch y ffatri.

Meddai Emlyn: “Rydyn ni’n diolch i Chris am yr amser a’r ymdrech y mae’n eu rhoi i’r teithiau o amgylch y ffatri. Mae ei arbenigedd, ei wybodaeth a'i angerdd am y cynnyrch yn amlwg, ac mae'r dysgwyr bob amser yn dychwelyd i'r coleg gyda'u taflenni gwaith yn llawn dop o wybodaeth.

“Clywsom hefyd fod Chris wedi dathlu 30 mlynedd gyda DMM eleni! Llongyfarchiadau iddo ar ei wasanaeth hir oddi wrth bob un ohonom yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.”

Mae Coleg Meirion-Dwyfor yn gweithio gydag Ysgol Botwnnog, Ysgol Eifionydd ac Ysgol Glan y Môr i ddarparu ystod eang o brofiadau i bobl ifanc sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn peirianneg ar ôl gorffen eu cyrsiau TGAU.

Gall dysgwyr ddewis dilyn cwrs BTEC Lefel 2 mewn Peirianneg Gyffredinol, gan astudio pedwar modiwl dros ddwy flynedd.

Yn ddiweddar, cwblhaodd dysgwyr y flwyddyn gyntaf eu modiwl cyntaf sef 'Y Byd Peirianneg', sy'n eu cyflwyno i sectorau amrywiol mewn peirianneg, i wybodaeth ddamcaniaethol o brosesau peirianyddol, i ddeunyddiau peirianyddol, ac i ddatblygiadau fel ynni adnewyddadwy a chelloedd tanwydd hydrogen.

Y flwyddyn nesaf byddant yn dilyn yr un unedau â chriw presennol yr ail flwyddyn – gan gynnwys modiwl newydd ar ddylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) lle byddant yn cystadlu yng nghystadleuaeth F1 mewn Ysgolion Gogledd Cymru.

Meddai Emlyn: “Dyma’r flwyddyn gyntaf i ni gyflwyno modiwl CAD newydd i’r cwrs lefel 2, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn.

“Mae’r dysgwyr i gyd wedi dylunio eu car rasio F1 eu hunain, ac wedi dewis y dyluniad gorau ohonyn nhw i gyd i’w rasio.

“Mae'r gystadleuaeth F1 mewn ysgolion yn ffordd wych i’r dysgwyr ddangos y sgiliau CAD y maent wedi’u dysgu wrth iddynt rasio eu car ar hyd trac 20 metr o hyd ar gyflymder o hyd at 35 milltir yr awr.

“Mae’r gystadleuaeth hefyd yn gwella eu sgiliau gweithio mewn tîm, gan gynnwys rheoli prosiect, dylunio, gweithgynhyrchu, cyllid ac entrepreneuriaeth, drwy gymryd rhan mewn aseiniad hwyliog a diddorol.”

Cafodd Coleg Meirion-Dwyfor lwyddiant yn y gystadleuaeth eleni, gyda thri o'i bum tîm yn ennill gwobrau ac un o'r timau Lefel 3 yn cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol y Deyrnas Unedig yn Rotherham.

Ychwanegodd Emlyn: “Rydyn ni'n edrych ymlaen at baratoi y dysgwyr newydd fydd yn dechrau ym mis Medi at y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.”

  • Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg i ddysgwyr sy’n gwneud eu TGAU eleni wedi agor. Dilynwch y ddolen a chlicio 'Gwneud cais rŵan'. Mae'r cwrs ar gael yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau a Phwllheli, ac ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.
  • Dylai dysgwyr 14 – 16 oed holi trwy eu hysgol am y cwrs BTEC Lefel 2 mewn Peirianneg Gyffredinol a'r lleoedd sydd ar gael arno.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ystod o gyrsiau Peirianneg a gynigir yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.