Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mared ar drywydd y gemau rhagbrofol gyda Charfan Cymru

Mae'r fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor yn paratoi i ennill ei chap cyntaf a chwarae i dîm hyn merched Cymru yn erbyn Croatia a Kosovo.

Mae Mared Griffiths o Goleg Meirion-Dwyfor wedi cael ei galw i garfan Merched Cymru i chwarae yn y rowndiau rhagbrofol yn erbyn Croatia a Kosovo.

Mae Mared, o Drawsfynydd, yn dilyn cwrs Busnes Lefel 3 ar gampws y coleg yn Nolgellau.

Mae’r ferch 17 oed yn un o bum chwaraewr ifanc sydd wedi’u dewis am y tro cyntaf i ymuno â charfan hŷn tîm pêl-droed merched Cymru, ynghyd â Soffia Kelly, Mayzee Davies, Elena Cole ac Ania Denham.

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Croatia ar y Cae Ras yn Wrecsam ddydd Gwener, Ebrill 5, cyn wynebu Kosovo yn Podujevo ar ddydd Mawrth, Ebrill 9.

Mae'r rheolwr Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi carfan gref o 26 chwaraewr ar gyfer ei gemau cyntaf wrth y llyw.

Jess Fishlock, os bydd hi'n chwarae yn y ddwy gêm, fydd y chwaraewr cyntaf i ennill 150 cap am chwarae i dîm Cymru, ac mae'r chwaraewyr profiadol Sophie Ingle ac Angharad James hefyd ar gael.

Bydd Cymru yn dychwelyd i'r Cae Ras am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2020 ar gyfer eu gêm yn erbyn Croatia nos Wener nesaf (y gic gyntaf am 7.15pm). Yna byddant yn teithio i Kosovo ar gyfer eu hail gêm yn Stadiwm Zahir Pajaziti yn Podujevo y dydd Mawrth canlynol (1pm BST).

Am ragor o wybodaeth am y gêm yn erbyn Croatia a sut i brynu tocynnau, ewch i Gwefan CBDC (FAW).