Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Joshua yn ennill gwobr Kyffin Williams i fyfyrwyr

Mae gwaith y dysgwr o Goleg Menai bellach yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith yr arlunydd enwog Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn yn Llangefni

Joshua Griffith, myfyriwr celf yng Ngholeg Menai, yw un o enillwyr Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2024.

Enillodd Joshua, o Gaergybi, y categori i fyfyrwyr am ei lun graffit ac acrylig, 'Biomorph #1'.

Mae ei ddarn buddugol bellach yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith yr arlunydd enwog Syr Kyffin Williams, yn Oriel Môn yn Llangefni.

Mae Joshua, sy'n astudio Gradd BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain ar gampws y Coleg ym Mharc Menai, hefyd wedi ennill gwobr o £1,000.

Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i Oriel Môn a phanel 'Gwobr Lluniadu Kyffin Williams' am ddewis fy ngwaith i ar gyfer y wobr i fyfyriwr. Mae lluniadu wastad wedi chwarae rhan bwysig iawn yn fy nhaith greadigol, ac felly dw i wrth fy modd fy mod wedi cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith drwy ennill y wobr hon.”

Ychwanegodd: “Mae fy ngwaith diweddaraf yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng gofod a ffurf. Fel arfer dw i'n gweithio trwy gyfrwng cerflunio a lluniadu arsylwadol. Dw i’n cael fy nenu at ffurfiau organig a sut maen nhw’n ymateb i wahanol amgylcheddau.”

Sefydlwyd Gwobr Arlunio Kyffin Williams gan Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams ac Oriel Môn er cof am un o hoff artistiaid Cymru, am y gefnogaeth a roddodd i artistiaid eraill a’r gwerth a roddodd ar sgiliau lluniadu.

Cynhelir y gystadleuaeth bob tair blynedd, gyda gwobr o £3,000 ar gael i enillydd y brif wobr a gwobr o £1,000 i enillydd y gystadleuaeth i fyfyrwyr.

Ian Fisher o Lanelli yw enillydd y brif wobr eleni. Mae gwaith Ian yn edrych ar dirwedd a diwylliant Cymru drwy gyfres o ysgythriadau a lluniadau.

Ers i’r Wobr Lluniadu gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2009, mae mwy a mwy o artistiaid o bob rhan o Gymru a Lloegr wedi ymgeisio.

Bydd y darnau buddugol gan Ian Fisher a Joshua Griffith, ynghyd â gwaith yr artistiaid a gyrhaeddodd y rhestr fer, yn cael eu harddangos yn arddangosfa ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ yn Oriel Môn tan 7 Gorffennaf 2024.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, cliciwch yma neu ewch i orielmon.org

A oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio Celf a Dylunio neu Ffotograffiaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael.