Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr chwaraeon i ddyfarnu cystadlaethau rygbi'r Urdd

Bydd y dysgwyr yn gyfrifol am gemau yng Ngŵyl Rygbi Ysgolion Cynradd yr Urdd y mis hwn ar ôl iddynt gwblhau’r cwrs Dyfarnwyr ym maes Addysg gydag Undeb Rygbi Cymru

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr Chwaraeon o Goleg Llandrillo hyfforddiant i fod yn ddyfarnwyr rygbi yn barod i ddyfarnu yn nhwrnameintiau'r Urdd.

Cwblhaodd y dysgwyr eu cwrs Dyfarnwyr ym maes Addysg gyda Sean Brickell o Undeb Rygbi Cymru.

Hyfforddodd Sean fyfyrwyr sydd ar gyrsiau Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff⁠ gan eu dysgu sut i hyfforddi a dyfarnu grwpiau o oedran gwahanol.

Talwyd am y cwrs gan Urdd Gobaith Cymru, a bydd y myfyrwyr yn dyfarnu yng Ngŵyl Rygbi Ysgolion Cynradd y mudiad ieuenctid yn Llanrwst ar 1 Chwefror ac yna yn Rhuthun ar 6 Chwefror.

Dywedodd Ieuan Jones, sy’n astudio Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) Lefel 3: "Dw i wedi ei fwynhau. Rydan ni wedi dysgu sgiliau newydd - dim jyst yr ochr hyfforddi, mae'n gallu rhoi sgiliau eraill i chi fel arweinyddiaeth.

“Rydan ni wedi bod yn cael hyfforddiant chwaraeon ar gyfer dysgu grwpiau o bob oed. Wrth gwrs mae gan grwpiau o oedran gwahanol sgiliau gwahanol, felly mae’n rhaid i ni ddysgu beth sy’n berthnasol i grwpiau gwahanol, yn ogystal â sut i gadw plant yn ddiogel.”

Dywedodd Sean Brickell, o adran dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru: “Rydw i wedi cynnal cryn dipyn o gyrsiau yng Ngogledd Cymru erbyn hyn ac maen nhw bob amser yn grwpiau parod i ddysgu.

“Mae'n ymwneud â chael y myfyrwyr hŷn hyn i ddyfarnu'r plant iau, oherwydd yn aml maent yn uniaethu â phlant yn well nag oedolion hŷn, ac mae'r plant yn gwerthfawrogi eu bod yn dyfarnu hefyd.

“Bydd rhai o’r myfyrwyr hyn yn mynd ymlaen i roi cynnig ar ddyfarnu. Maen nhw i gyd yn chwaraewyr - dwi'n gyn-chwaraewr fy hun, a does dim byd yn curo chwarae - ond mae dyfarnu yn gallu bod yn opsiwn i aros yn y gêm os ydyn nhw'n cael anaf, neu os ydyn nhw'n gweld chwarae mewn amgylchedd tîm yn rhy drwm. Felly mae'n rhoi opsiwn arall iddyn nhw mewn gwirionedd.

“Rhaid canolbwyntio ar y pethau sylfaenol, peidio mynd yn rhy dechnegol oherwydd dyfarnu plant ifanc fydden nhw. Mae'n ymwneud â rhoi'r ddealltwriaeth sylfaenol o ddyfarnu syml iddynt fel eu bod yn gallu hwyluso gêm rygbi yn ddiogel. Y prif beth yw bod y plant i gyd yn ei fwynhau, a’r dyfarnwyr yn ei fwynhau.”

Dywedodd Ollie Coles, Swyddog Ymgysylltu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Urdd am roi’r cyfle i 18 o’n dysgwyr gael eu hyfforddi i fod yn ddyfarnwyr ac i gael y cyfle i ddefnyddio’r sgiliau hyn yn y gymuned ehangach.

“Rhan allweddol o’n strategaeth yn y coleg yw darparu’r sgiliau a’r cymwysterau y bydd eu hangen ar ddysgwyr ar ôl graddio, a phrofiad ymarferol o weithio yn yr amgylcheddau hyn. Da iawn bawb."

⁠Hoffech chi astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, ewch i www.gllm.ac.uk/cy/courses/sport-and-outdoor-education