Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Eva a Madeleine yn cael eu henwi'n aelodau o Sgwad y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills Lyon 2024

Bydd un o ddarlithwyr Coleg Menai, Eva, a Madeleine, sy'n brentis gyda chwmni RWE, yn cystadlu gydag ymgeiswyr eraill ar y rhestr fer i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y ‘Gemau Olympaidd sgiliau’

Mae Eva Voma a Madeleine Warburton o Grŵp Llandrillo Menai wedi’u dewis i fod yn aelodau sgwadiau'r Deyrnas Unedig sy’n paratoi ar gyfer WorldSkills Lyon 2024.

Mae Eva a Madeleine wedi llwyddo i gael eu henwi ar y rhestr fer ar gyfer dau gategori newydd yn y gystadleuaeth WorldSkills 2024, i'w chynnal rhwng 10 a 15 o fis Medi eleni.

Mae Eva, darlithydd peirianneg a chyn-fyfyriwr yng Ngholeg Menai, wedi ei henwi yn y garfan ar gyfer y categori gweithgynhyrchu ychwanegion.

Mae Madeleine, sy'n dilyn prentisiaeth fel technegydd tyrbinau gwynt gyda RWE, yn y garfan ar gyfer y gystadleuaeth ynni adnewyddadwy.

Fe fyddan nhw'n cystadlu yn erbyn ymgeiswyr eraill ar y rhestr fer nawr i gael eu henwi yn Nhîm y Deyrnas Unedig pan fydd aelodau'r garfan yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i Eva a Madeleine ar eu cynnwys yn Sgwad y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills Lyon 2024.

“Maen nhw wedi gwneud mor dda i gyrraedd y cam yma, ond mae’r gwaith caled yn dechrau nawr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol. Mae aelodau Sgwad y Deyrnas Unedig yn esiamplau i'r genhedlaeth nesaf. Byddant yn dangos y gall prentisiaethau ac addysg dechnegol arwain at yrfaoedd gwych.”

Cystadleuaeth WorldSkills, y cyfeirir ati fel y 'Gemau Olympaidd sgiliau', yw'r gystadleuaeth sgiliau rhyngwladol fwyaf, a gynhelir mewn dinasoedd ledled y byd bob dwy flynedd.

Pearson yw partner swyddogol Tîm y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills Lyon 2024. Bydd y digwyddiad eleni yn gweld 1,500 o bobl ifanc o fwy na 65 o wledydd yn cystadlu mewn 62 o gategorïau sgiliau technegol gwahanol, yn amrywio o beirianneg, gweithgynhyrchu a thechnoleg i sgiliau creadigol, digidol a lletygarwch, o flaen cynulleidfa o 250,000 o bobl.

Byddant yn gweld yr arferion gorau byd-eang mewn safonau sgiliau, hyfforddiant ac asesu yn ystod y digwyddiad, a byddant yn rhannu rheiny gydag addysgwyr, cyflogwyr a llywodraethau yn y Deyrnas Unedig.

Astudiodd Eva am Ddiploma Lefel 3 mewn Peirianneg yng Ngholeg Menai, gan symud ymlaen i Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg ac yna i brentisiaeth gradd gyda chwmni International Safety Components (ISC) yn Llandygai.

Graddiodd yn yr haf y llynedd, gan ennill Bagloriaeth Peirianneg (BEng) dosbarth cyntaf mewn Systemau Mecanyddol Cymhwysol, a ddyfarnwyd gan Brifysgol Bangor, cyn dychwelyd i Goleg Menai fel darlithydd.

Detholwyd Eva i'r garfan gweithgynhyrchu ychwanegion gydag Oscar McNaughton o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Jakub Strzelczyk o Goleg Technegol Canolbarth Lloegr a Lucas Langley o UTC Sheffield.

Dewiswyd y pedwar yn dilyn digwyddiad dethol yng Nghanolfan Ynni Coleg Menai yn Llangefni. Arweiniwyd y sesiwn gan ddarlithwyr y coleg, Iwan Roberts a Bryn Jones, a benodwyd yn rheolwyr hyfforddi WorldSkills y Deyrnas Unedig ym maes gweithgynhyrchu ychwanegion yn ddiweddar.

Dywedodd Eva, a enillodd wobr efydd yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills y Deyrnas Unedig y llynedd: “Roedd y tasgau yn y digwyddiad dethol yn bendant gam yn uwch na'r lefel flaenorol ac yn ein herio ni.

Dangosodd lle rydw i'n gryf a lle rydw i angen gwella. Roedden ni’n bendant yn cael ein paratoi ar gyfer sut beth ydi'r llwyfan rhyngwladol – roedd hyd yn oed y synau a'r bwrlwm wedi’u hail-greu i ni yn ystod y gystadleuaeth!”

Dewiswyd Madeleine, sy’n astudio Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch Lefel 3, ynghyd â Danny McBean o UHI Moray, Harry Stewart o Goleg Clyde Glasgow a Thomas Turner o JTL, yn dilyn digwyddiad dethol yn Sefydliad Technoleg De Swydd Efrog.