Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfle arbennig i Caio mewn twrnamaint rygbi saith bob ochr

Yn ddiweddar, chwaraeodd Caio Parry, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo a chefnwr academi rygbi RGC, ei gêm gyntaf i dîm Prydain Fawr yng Nghyfres Pencampwriaeth Rygbi Ewrop

Yn ddiweddar, chwaraeodd Caio Parry, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo ei gêm gyntaf i dîm rygbi saith bob ochr Prydain Fawr yng Nghyfres Pencampwriaeth Rygbi Ewrop.

Chwaraeodd Caio, 19 oed, am y tro cyntaf i dîm Prydain Fawr yn y twrnamaint yn Makaraska, Croatia, a helpu'r tîm i orffen yn bedwerydd yn y rownd ganlynol yn Hamburg, yr Almaen.

Mae Caio, sy'n dod o Gaernarfon, yn chwarae i RGC a chafodd ei alw i dîm Saith Bob Ochr Prydain Fawr ar ôl i'r dewiswyr weld clipiau ohono yn chwarae rygbi.

Dywedodd: "Roedd yn wych, un o'r profiadau gorau dw i wedi'i gael erioed gyda rygbi. Mae'r gêm yn gyflym iawn ac yn gorfforol iawn hefyd. Roedd cystadlu yn erbyn timau o'r safon yma'n brofiad arbennig."

Cyn ymuno ag academi RCG, dilynodd Caio gwrs Lefel 3 Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) ⁠ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Yn ystod ei gyfnod yno roedd yn cydbwyso'i waith coleg â hyfforddi a chwarae i RGC a thîm y coleg fel rhan o Academi Llandrillo.

“Mi wnes i fwynhau fy nghyfnod yn y coleg yn fawr,” meddai Caio. “Dyna ble gwnes i ddatblygu, yn y coleg ac ar raglen RGC, a dyna ble dechreuais i gyda rygbi saith bob ochr. Roedden ni'n chwarae rygbi saith bob ochr mewn twrnamaint ym Mharc Rosslyn ar ddiwedd tymor rygbi 15 bob ochr, ac roedd hynny'n un o'r uchafbwyntiau i mi.”

Mae Caio yn chwarae fel cefnwr i RGC, ac fel maswr, canolwr neu asgellwr mewn gemau saith bob ochr. Mae'n hyfforddi pedair gwaith yr wythnos gydag RGC, a hefyd yn gweithio fel swyddog hybu rygbi yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

Chwaraeodd i dîm dan-19 Cymru llynedd, ac i dîm dan 20 mewn gêm hyfforddi yn erbyn yr Alban yn gynharach eleni, a'i nod ydy chwarae'n broffesiynol.

“Dyna’r nod,” meddai. “Cael tymor da i RGC gobeithio, ac efallai symud ymlaen i arwyddo contract proffesiynol.”

Er bod rhaglen llawn amser rygbi saith bob ochr Tîm Prydain Fawr yn cael ei dileu ddiwedd y mis hwn, mae hi'n bosib o hyd y bydd modd chwarae yn y Gemau Olympaidd yn Los Angeles ymhen tair blynedd.

Dywedodd Caio: "Mi fasai hynny'n wych. Gobeithio bydda i'n cael cyfle i chwarae eto, a chyfle rhyw ddiwrnod i chwarae ar y llwyfan mwyaf un yn y Gemau Olympaidd rhyw ddydd.”

Hoffech chi astudio a pharhau i gymryd rhan mewn chwaraeon ar yr un pryd? Dysgwch ragor am academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai yma.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Chwaraeon yn amrywio o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date