Timau Rasio STEM yn chwilio am noddwyr i roi hwb i ymgyrch 2026
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae timau o Goleg Meirion-Dwyfor wedi cyrraedd rownd derfynol y Deyrnas Unedig, ac mae cwmnïau lleol yn cael eu hannog i fanteisio ar y cyfle i gymryd rhan
Mae timau Rasio STEM Coleg Meirion-Dwyfor yn chwilio am noddwyr i'w helpu i gyrraedd y brig.
Rasio STEM yw'r enw newydd ar F1 mewn Ysgolion, prosiect addysgol lle mae timau o fyfyrwyr yn dylunio, cynhyrchu, a rasio car Fformiwla 1 bach.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae timau o'r coleg wedi cyrraedd rowndiau terfynol cenedlaethol y DU. Rŵan, mae cwmnïau lleol yn cael eu hannog i gefnogi carfan eleni, wrth iddyn nhw geisio dilyn y llif o lwyddiant.
Dywedodd y darlithydd peirianneg a'r arweinydd Rasio STEM, Emlyn Evans: “Hoffem gynnig cyfle i gwmnïau lleol gefnogi ein peirianwyr ifanc yn y fenter hon. Mae croeso i bob cwmni gysylltu â ni gyda chynigion o nawdd ar gyfer y timau fydd yn cystadlu eleni.
“Mae lefel y nawdd yn amrywio o noddi tîm yn llawn gyda brandio llawn ar y car, dillad i'r tîm, a chyhoeddusrwydd ar gyfryngau cymdeithasol ac erthyglau coleg, i frandio sy'n cael ei rannu â chwmnïau eraill ar sawl rhan o’r car, fel yr olwynion, yr adain flaen neu’r adenydd cefn.
“Mae noddwyr blaenorol wedi elwa o gydweithio ar brosiectau gyda’r coleg hefyd, er enghraifft gyda darparu profiad gwaith a chefnogaeth gyda hyfforddiant argraffu 3D a gweithgynhyrchu darbodus i’w gweithwyr.”
Y llynedd, roedd CK Tools yn un o noddwyr Tîm Loop Racing, a gyrhaeddodd rownd derfynol y DU ar ôl gorffen fel enillwyr dosbarth proffesiynol cyffredinol y gystadleuaeth yng Ngogledd Cymru.
Arweiniodd eu partneriaeth lwyddiannus at gydweithio pellach, gyda'r coleg yn prynu pecynnau offer gan y cyflenwr o Bwllheli yn dilyn cynnig gan Dîm Loop Racing.
Derbyniodd y dysgwyr ar gwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol Uwch y pecynnau offer newydd yn gynharach y tymor hwn fel gwobr am gwblhau blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau, oedd yn cynnwys 150 awr o brofiad gwaith.
Dyma oedd gan Bennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor, Fflur Rees Jones, i'w ddweud: “Roedd yn bleser mawr i mi gyflwyno'r pecynnau tŵls cychwynnol i bob dysgwr a oedd yn cynnwys set clicied 39-darn, sbaner addasadwy, morthwyl, haclif, lefel a chaliper vernier o ansawdd gan yr enwog CK Tools.”
“Mae gennym ni dîm gwych yn cydweithio i ddarparu’r cyfleoedd a’r profiadau gorau i’n dysgwyr tra byddant yn astudio ar y cwrs BTEC mewn Peirianneg Uwch. Mae pob un ohonom yn gwerthfawrogi cyfranogiad a chefnogaeth y cyflogwyr lleol yn fawr iawn - allem ni ddim darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn hebddyn nhw i gyd.”
Dywedodd Noah Hutchings, arweinydd y rhaglen Peirianneg Lefel 3 ar gampws Dolgellau: “Rydyn ni'n falch o’r ymrwymiad mae ein myfyrwyr yn ei wneud i fynd allan i ddiwydiant lleol yn ystod gwyliau hanner tymor a'r Pasg i ennill profiad gwaith gwerthfawr fel rhan o’r cymhwyster. “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl gwmnïau sydd wedi darparu’r cymorth hwn fel rhan o’r cynllun lleoliad gwaith, ac yn parhau i wneud hynny bob blwyddyn.
Gall unrhyw gwmnïau sydd â diddordeb mewn noddi un o dimau Rasio STEM Coleg Meirion-Dwyfor gysylltu ag Emlyn Evans drwy anfon e-bost at evans12e@gllm.ac.uk.