Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Grŵp yn croesawu Mark Isherwood AS i ddysgu am brentisiaethau

Gwelodd yr Aelod o’r Senedd dros ogledd Cymru sut mae hyfforddiant a arweinir gan ddiwydiant yn darparu sgiliau ac yn grymuso twf y gweithlu yn y sectorau ynni ac iechyd hanfodol

Croesawodd Grŵp Llandrillo Menai Mark Isherwood AS i'w gampws yn y Rhyl i ddysgu am effaith a photensial prentisiaethau.

Cafodd yr aelod rhanbarthol dros ogledd Cymru gyfle i gwrdd â phrentisiaid rhaglen RWE Offshore Wind yng Nghanolfan Beirianneg Coleg Llandrillo, yn ogystal â gweld sut mae hyfforddiant a arweinir gan y diwydiant yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

Ymwelodd Mr Isherwood hefyd â meddygfa Cadwgan yn Hen Golwyn, lle clywodd sut mae llwybrau dysgu seiliedig ar waith yn cefnogi twf y gweithlu ym mhob rhan o'r GIG ac mewn gofal sylfaenol.

Yno, gwnaeth gwrdd â Kelci Smith, prentis sy'n astudio Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Gofal Sylfaenol gyda Busnes@LlandrilloMenai, cangen hyfforddiant seiliedig ar waith Grŵp Llandrillo Menai.

Dywedodd Mr Isherwood: “Yn dilyn llwyddiant Ffair Brentisiaethau Colegau Cymru yn y Senedd ym mis Chwefror eleni, gofynnwyd i mi ymweld â rhai o golegau gogledd Cymru i weld y ddarpariaeth a’r amrywiaeth o raglenni prentisiaeth.

“Roedd yn bleser mawr ymweld â champws Grŵp Llandrillo Menai yn y Rhyl fel rhan o’m taith i weld y prentisiaethau sy'n cael eu cynnig yn eu Canolfan Beirianneg wych. Fe wnes i fwynhau cwrdd a sgwrsio â rhai o'r prentisiaid a dysgu mwy am sut mae'r cynlluniau hyn yn helpu pobl i gyflawni eu hamcanion gyrfa.

“Yn ystod fy ymweliad â meddygfa Cadwgan yn Hen Golwyn, dysgais fwy am fanteision prentisiaethau a siaradais gyda Kelci Smith, dysgwraig a gwblhaodd ei thystysgrif mewn Gofal Sylfaenol ac yna symud ymlaen i ddiploma llawn trwy'r llwybr prentisiaeth.

“Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig cwrdd â’r holl brentisiaid yn ystod fy ymweliadau. Mae eu hangerdd a'u hymroddiad yn rhoi hyder mawr i mi yn nyfodol ein gweithlu a'n gwlad.”

Meddai Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Masnachol a Seiliedig ar Waith Grŵp Llandrillo Menai: “Mae prentisiaethau yn un o’r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym i fynd i’r afael â phrinder sgiliau wrth gynnig datblygiad gyrfa ystyrlon.

“Mae’r hyn a welodd Mark heddiw yn brawf o sut y gall partneriaethau cydweithredol rhwng cyflogwyr a darparwyr ddenu pobl newydd i ddiwydiannau hanfodol a chyflawni canlyniadau i unigolion, busnesau a chymunedau ledled Gogledd Cymru.”

Dysgwch ragor am brentisiaethau Grŵp Llandrillo Menai ⁠yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date