Myfyrwyr yn canmol Grŵp Llandrillo Menai yn Arolwg y Dysgwyr diweddaraf
Dysgwyr Addysg Bellach a dysgwyr sy'n oedolion yn tynnu sylw at gryfderau gan gynnwys ansawdd yr addysgu a'r adnoddau, parch rhwng myfyrwyr a staff, a diogelwch ar y campws
Dyfarnwyd sgôr hynod gadarnhaol i Grŵp Llandrillo Menai gan fyfyrwyr yn Arolwg y Dysgwyr 2024/25.
Rhoddodd 94% o ymatebwyr yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor sgôr 'da iawn' neu 'da' i'w coleg yn yr arolwg o ddysgwyr addysg bellach a dysgwyr sy'n oedolion.
Dywedodd 93% hefyd fod yr addysgu ar eu cwrs naill ai'n dda iawn neu'n dda.
Cryfderau eraill a nodwyd yn yr arolwg oedd bod staff yn trin myfyrwyr â pharch (94%), mae dysgwyr yn teimlo'n ddiogel yn y coleg (94%) ac yn cael adnoddau ac offer dysgu o ansawdd da (93%).
Gwnaeth 86% ganmol y ddarpariaeth o adnoddau dysgu ychwanegol - cynnydd o 3% o'i gymharu â'r arolwg blaenorol yn 2022/23. Roedd 82% yn teimlo bod y coleg yn rhoi cymorth iddynt o ran materion personol, fel cyllid, gofal plant, trafnidiaeth ac iechyd.
Bu twf sylweddol hefyd mewn cyfleoedd cyfrwng Cymraeg. Roedd canran y myfyrwyr a nododd eu bod wedi cael cynnig y cyfle i ddysgu'n ddwyieithog i fyny 9%, tra bod y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael y cyfle i gael eu hasesu'n ddwyieithog wedi cynyddu 7%.
Pan ofynnwyd iddynt yn yr arolwg beth oeddent yn ei hoffi am y coleg, gwnaeth y dysgwyr ganmol y staff hawdd mynd atynt, yr addysgu o safon, yr amgylchedd cefnogol a'r bywyd cymdeithasol.
Dywedodd un myfyriwr yn yr arolwg dienw: “Un peth dw i'n ei hoffi fwyaf am y coleg hwn yw faint mae wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau creadigol a fy hyder.”
Ychwanegodd cyfranogwr arall: “Mae staff yno bob amser os dw i angen sgwrs ac i’m helpu gyda fy nghamau nesaf.”
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydyn ni'n falch iawn bod ein dysgwyr yn rhoi sgôr uchel i ansawdd yr addysg maen nhw'n ei derbyn gyda ni, a'u bod nhw'n teimlo'n ddiogel, yn cael eu parchu a'u cefnogi'n dda.
“Mae’r arolwg yn rhoi dealltwriaeth dda i ni ar sut mae ein myfyrwyr yn teimlo am eu profiad gyda Grŵp Llandrillo Menai ac rydw i wrth fy modd eu bod yn mynegi barn mor gadarnhaol am y ddarpariaeth rydyn ni'n ei gynnig ar draws ein campysau.
“Mae’r canlyniadau’n dyst i’r ystod eang o brofiadau addysgol o ansawdd uchel rydyn ni’n eu cynnig, sy’n rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar bobl i helpu economi gogledd Cymru i ffynnu. Mae'r canlyniadau hefyd yn adlewyrchu gwaith caled ein staff talentog, profiadol yn y diwydiant, sy'n ymroddedig i helpu ein holl fyfyrwyr i ddod o hyd i'r llwybr cywir.”