Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Darlithydd gweithgareddau awyr agored diweddaraf y coleg yn ennill Ras y Moelwyn

Mae gan Alwen Williams gymhwyster fel arweinydd teithiau mynydd rhyngwladol, yn ogystal â bod yn rhedwr llwybrau mynydd medrus ac yn gyn-bencampwr beicio mynydd Cymru

Enillodd Alwen Williams, darlithydd diweddaraf Coleg Meirion-Dwyfor ym maes gweithgareddau awyr agored, Ras y Moelwyn yn ddiweddar.

Mae Alwen yn un o'r staff addysgu ar y cwrs BTEC Lefel 3 Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored yn Nolgellau. Bu'n Bennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, cyn hynny.

Mae gan Alwen Williams gymhwyster fel arweinydd teithiau mynydd rhyngwladol ac fel arweinydd teithiau beicio mynydd, a bu'n chwarae pêl-droed i dîm Bangor a Chymru yn y categori pobl ifanc hŷn cyn magu diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored.

Mae hi wedi ennill pencampwriaeth beicio mynydd Cymru ac yn rhedwr llwybrau mynydd medrus, ar ôl ennill rasys fel ras 10k Llwybr Betws y Coed a’r ras 'Gold Rush' yng Nghoed y Brenin yn flaenorol.

Hi oedd y ddynes gyntaf i orffen Ras y Moelwyn fis diwethaf - ras 10.5 milltir o hyd, yn cynnwys esgyn bron i 2,800 troedfedd dros y mynyddoedd ger Blaenau Ffestiniog.

Mae Alwen wedi teithio’r byd, gan gynnwys Mynyddoedd Himalaia yn yr India, Nepal, yr Alpau, Norwy a Sgandinafia. Treuliodd flwyddyn yn byw yn yr Alpau yn Awstria hefyd, lle bu'n sgïo yn y gaeaf ac yn cerdded y mynyddoedd yn yr haf.

Felly mae hi'n dod â digonedd o brofiad i'w swydd newydd fel darlithydd ar gampws Dolgellau.

Bu'n darlithio un diwrnod yr wythnos ers y Nadolig, gan gynyddu i oriau rhan-amser ers y Pasg, ac mae'n mwynhau ei swydd newydd.

“Roeddwn i wedi bod yn addysgu ers dros 20 mlynedd, ac roeddwn i'n awyddus i ddefnyddio fy nghymwysterau awyr agored,” meddai. “Dwi’n mwynhau – mae’n hollol wahanol gyda myfyrwyr hŷn ôl-16.

“Dwi'n arwain dwy uned awyr agored y cwrs. Yn yr uned yn y flwyddyn gyntaf mae'r myfyrwyr yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau amrywiol ar dir ac ar ddŵr, megis cerdded, dringo, sgiliau cyfeiriannu, gwaith map a gwaith rhaffau. Byddant yn cwblhau taith hefyd. Maen nhw'n ystyried yr amgylchedd, a sut mae'r awyr agored a gweithgareddau awyr agored yn cael eu hybu hefyd.

“Mae uned yr ail flwyddyn yn canolbwyntio mwy ar arwain sesiynau, ac yn edrych ar agweddau fel iechyd a diogelwch, asesiadau risg a’r holl logisteg, fel eu bod nhw’n barod i fynd i’r awyr agored yn ddiogel.

“Mae’r cwrs yn gymysgedd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored. Er enghraifft, mae'r myfyrwyr yn dysgu sgiliau dringo yn y flwyddyn gyntaf, ac yna'n symud ymlaen i arwain sesiynau fel rhan o'u hasesiad yn yr ail flwyddyn.

“Dwi’n mwynhau gweld myfyrwyr yn datblygu sgiliau ac yn cael cymaint o brofiadau yn yr awyr agored. Rydym ni'n gwneud y mwyaf o fod yn yr awyr agored ac yn yr ystafell ddosbarth. Ond nid yr awyr agored ydy'r unig elfen, mae'n ymwneud â chwaraeon hefyd. Yr wythnos ddiwethaf trefnodd dysgwyr yn yr ail flwyddyn dwrnamaint pêl-droed pump bob ochr i fyfyrwyr Dolgellau fel rhan o'u haseiniad 'cynllunio digwyddiadau'.”

Dywed Alwen fod galw cynyddol am bobl sydd â sgiliau chwaraeon a gweithgareddau awyr agored yn economi gogledd Cymru.

“Mae’r sector hwn yn cyfrannu cymaint o ran yr economi ac mae’n sector sydd angen mwy a mwy o unigolion â sgiliau perthnasol,” meddai.

“Mae’n bwysig o ran y gwerth cymdeithasol a hefyd o ran iechyd a lles corfforol a meddyliol.

“Mae’n sector sy’n tyfu’n gyflym ac mae angen mwy o arbenigwyr lleol yn y maes. Mae gan y maes hwn gymaint i’w gynnig ar garreg ein drws, ac mae’n hanfodol bod pobl leol yn cael y cyfle i’w fwynhau, a bod cyfleoedd datblygu gyrfa iddyn nhw.”

Felly pa fath o swyddi sydd ar gael i'r rhai sydd wedi cwblhau'r cwrs BTEC Lefel 3 Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored?

Dywedodd Alwen: “Gall y cwrs arwain at bob math o swyddi – mae i ba gyfeiriad y maen nhw’n dewis mynd yn agored iawn, oherwydd bod y cwrs yn cwmpasu cymaint o wahanol unedau.

“Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn athrawon, hyfforddwyr gweithgareddau awyr agored, wardeniaid, hyfforddwyr pêl-droed a nyrsys. Mae rhai wedi sefydlu eu busnes eu hunain neu wedi mynd ymlaen i gwrs gradd Gwyddor yr Amgylchedd.

“Mae’r coleg yn gweithio’n agos iawn gyda Glan Llyn ac mae llawer o’r myfyrwyr yn mynd ymlaen i brentisiaethau yno. Mae’n ymwneud â meithrin sgiliau unigolion i ddatblygu gyrfaoedd sy’n gwneud y mwyaf o’r hyn sydd gennym yma ar garreg ein drws.”

Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant addysg awyr agored? I gael gwybod rhagor am gwrs Lefel 3 Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Coleg Meirion-Dwyfor, cliciwch yma. I gael gwybod rhagor am yr ystod lawn o gyrsiau ym maes Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.