Swydd hyfforddi George gyda thîm rygbi Prifysgol Loughborough
Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, wedi ei benodi'n hyfforddwr cryfder a chyflyru i dîm prifysgol Loughborough ar ôl cyfnod o weithio gyda thîm Codi Pwysau Para GB
Mae George Watkins, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, yn hyfforddi gyda thîm rygbi dynion Prifysgol Loughborough wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer tymor Super Rugby newydd.
Mae wedi sicrhau swydd tymor o hyd fel hyfforddwr cryfder a chyflyru drwy academi hyfforddi a gwirfoddoli'r brifysgol.
Mae George ar fin dechrau ail flwyddyn ei radd Gwyddor Chwaraeon, Hyfforddi ac Addysg Gorfforol yn Loughborough, ar ôl dilyn cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol, gwirfoddolodd George am fwy na 100 awr o gyda thimau chwaraeon elitaidd - a'i brofiad gwaith yn cynnwys cyfnod fel cynorthwyydd campfa gyda sgwad Codi Pwysau Para GB.
Yn ystod y cyfnod hwnnw penderfynodd ganolbwyntio ar faes cryfder a chyflyru - ac mae bellach yn helpu tîm rygbi'r dynion i baratoi ar gyfer eu hymgyrch yn nhymor nesaf Super Rygbi BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain).
“Dw i newydd ddechrau ar y swydd cryfder a chyflyru, a dw i wrth fy modd,” meddai George, o Landrillo-yn-Rhos.
Dw i'n helpu’r bechgyn i ddatblygu ac adfer er mwyn iddyn nhw fedru parhau i berfformio ar eu gorau a chael tymor llwyddiannus.
Mae hi'n gyfnod paratoi ar hyn o bryd, diwrnodau llawn a hir iawn. Unwaith y bydd y tymor yn dechrau mi fydda i'n rhan o ddiwrnodau'r gemau, yn helpu gyda'r paratoi, yn ystod y gêm a gyda'r adferiad wedyn.”
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol, gwirfoddolodd George fel dadansoddwr perfformiad i'r tîm rygbi, ac fel cynorthwyydd campfa gyda sgwad Codi Pwysau Para GB, profiad arbennig iawn.
"Dw i wedi elwa llawer o'r profiadau hyn ac mae wedi fy helpu i benderfynu beth hoffwn i wneud yn y dyfodol," meddai. “Mae hyfforddiant cryfder a chyflyru yn rhywbeth dw i'n ei fwynhau ac ar ôl gwneud hynny dw i'n gwybod y baswn i'n hoffi gweithio yn y maes hwnnw. Mae cael y profiadau hyn mor gynnar yn fy ngyrfa wedi bod yn wych."
Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Llandrillo roedd George yn aelod o'r Academi Rygbi, a oedd yn golygu y gallai gyfuno ei astudiaethau ar gampws Llandrillo-yn-Rhos â hyfforddi a chwarae i dîm rygbi RGC.
"Mi wnes i elwa llawer o fy nghyfnod yn y coleg," meddai. "Cyn mynd i'r coleg, do'n i ddim yn gwybod beth oeddwn i am ei wneud, ond mi wnaeth fy mharatoi ar gyfer y cyfnod nesaf. Roedd pob un o'r myfyrwyr yn wych ac mi wnes i fwynhau'r cwrs.
Roedd y trefniadau chwarae rygbi'n dda iawn hefyd. Mae'r llwybrau datblygu yn eu lle ac mae safon yr hyfforddiant yn uchel iawn."
Hoffech chi weithio ym maes chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma. I gael rhagor o wybodaeth am Academïau rygbi a phêl-droed Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.