Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Nod o gwtogi allyriadau 80% yn dilyn gosod electroleiddiwr hydrogen ar dractor fferm Coleg Glynllifon

Mae Coleg Glynllifon yn treialu dull newydd ac arloesol o gwtogi allyriadau carbon a faint o danwydd a ddefnyddir gan un o dractorau'r fferm, gyda chymorth Cyswllt Ffermio. Mae busnes newydd wedi'i leoli yn ne Swydd Efrog, Water Fuel Systems, wedi datblygu dull cost isel o gwtogi allyriadau disbyddu peiriannau fferm hyd at 80% ac yn honni bod swm y tanwydd a ddefnyddir yn lleihau 20%.

Mae'r blwch bach trosi hydrogen yn cynnwys dŵr distyll ac electroleiddiwr sy'n hollti'r dŵr yn hydrogen ac ocsigen trwy yrru cerrynt trydanol trwy'r tanc.

Mae'r ocsihydrogen sy'n deillio o hynny yn cael ei chwistrellu i'r injan disel confensiynol ar gyfradd o tua 6%. Mae'r gweithgynhyrchwyr hefyd yn dweud bod y tanwydd yn 'llosgi'n well', sy'n arwain at injan lanach, sy'n golygu nad oes angen adnewyddu'r hidlyddion gronynnau disel mor aml.

Gwelodd myfyrwyr Peirianneg Amaethyddol Coleg Glynllifon sut y gosodwyd y dechnoleg newydd hon ar dractorau hŷn a byddant yn monitro'r defnydd tanwydd ac allyriadau wrth i'r tractor John Deere wneud gwaith ar y fferm yn ystod misoedd y gaeaf.

Mewn ymgais i roi hwb arall i'r ymdrechion 'gwyrdd, mae'r tîm yng Ngholeg Glynllifon wedi sicrhau cyflenwad o ddŵr distyll gan gwmni Halen Môn gerllaw. Mae'n un o gyd-gynhyrchion cynhyrchu halen o'r môr.

Esboniodd Gareth Williams, darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Glynllifon: "Mae'n wych medru treialu'r offer newydd yma mewn cydweithrediad â Chyswllt Ffermio i ddangos i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a chontractwyr bod defnyddio dulliau ffermio carbon isel yn bosibl efo peiriannau fferm fforddiadwy sy'n bodoli eisoes.

Yn ystod ymweliad diweddar â champws Glynllifon cafodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, gyfle i weld sut mae'r broses yn gweithio'n ymarferol.
Meddai'r Gweinidog: "Mae'n wych gweld enghreifftiau arloesi amaethyddol fel hyn yn cael eu datblygu ar y cyd mewn partneriaeth gadarnhaol. O gofio pwysigrwydd chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd mae'n dda gweld datrysiadau ymarferol yn cael eu treialu yma yng Ngogledd Cymru."