Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Aelod o staff o'r Coleg a Chodwr Arian Brwdfrydig yn Cynnal y Cinio Cyntaf ers i'r Pandemig Ddechrau

Mae aelod o staff o Goleg Llandrillo "wrth ei bodd" wedi trefnu'n llwyddiannus y cinio codi arian cyntaf er budd ei changen NSPCC lleol ers dechrau'r pandemig.

Mae Sharon Shaw, sydd yn gweithio o fewn Cyfarwyddiaeth Addysg Oedolion yn y Gymuned, yn godwr arian ymroddedig ac yn aelod o bwyllgor y NSPCC, a bu'n cynnal y cinio tymor y dathlu blynyddol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg am bron i 20 mlynedd.

Eleni, er gwaethaf cyfyngiadau COVID-19, gwerthwyd yr holl docynnau, gyda'r 55 ciniawr yn codi £700 mewn mater o oriau. Roedd hefyd yn un o’r digwyddiadau mawr cyntaf i'w cynnal yn y Bwyty Orme View llwyddiannus ers i COVID-19 daro.

Meddai Sharon: "Rydym bob amser yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae'r coleg y ei roi i ni, ac mae ein gwesteion bob amser yn gwneud sylwadau cadarnhaol iawn ar y cinio a weinir, ac ar y gwasanaeth a ddarperir gan y myfyrwyr. Mae'n ffordd wych o gyflwyno’r gymuned i Goleg Llandrillo ac mae nifer o westeion yn dychwelyd i fynychu ciniawau Nadolig y bwyty. Mae'n gyfle ardderchog i'r myfyrwyr a'r holl staff diwyd i arddangos yr hyn y gallant ei wneud.

"Roedd yn garreg filltir bwysig i ni fel elusen. Daeth ein holl ymdrechion i godi arian i ben oherwydd y pandemig ac aethom o godi miloedd y flwyddyn i ddim ond £80 o roddion. Gobeithio y bydd hyn yn gyntaf o ragor o ddigwyddiadau codi arian a gynhelir ar gyfer yr elusen gwerth chweil hon."

Dywedodd Debbie Wilkes, Hyfforddwr Gweini Bwyd a Diod yng Ngholeg Llandrillo: "Mae bob amser yn bleser i groesawu tîm y NSPCC. Rydym yn falch iawn o groesawu'r digwyddiad hwn ym Mwyty'r Orme View. Mae Sharon yn unigolyn hynod o drefnus a gweithgar sydd yn frwd iawn dros ei helusen. Rydym yn dymuno'r gorau iddynt gyda'u holl ddigwyddiadau at y dyfodol."

www.gllm.ac.uk