Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Dolgellau yn Profi Diwylliant Gweledol ar ei Orau

Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr celf o Goleg Meirion-Dwyfor ar ymweliad i Lundain er mwyn cael profi'r gelf weledol a phensaernïol orau sydd gan y ddinas i’w chynnig

Mae’r dysgwyr yn astudio Cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio a Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio ar gampws y coleg yn Nolgellau.

Gwnaethant ymweld â rhai o sefydliadau celf mwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys y British Museum, Tate Britain, Tate Modern, y V&A, Prifysgol Goldsmiths a'r Natural History Museum.

Dywedodd Martin Evans, Pennaeth adran Celf a Dylunio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau:
“Roedd yn daith wych. Roedd y myfyrwyr yn ardderchog, ac maent wedi dod yn ôl i'r Coleg gyda gwybodaeth a phrofiad hanfodol y gallent ymgorffori yn eu prosiect creadigol."

Diddordeb mewn astudio Celf a Dylunio yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Ewch i gllm.ac.uk/cy/courses/art-and-design-and-photography ⁠neu cliciwch yma.