Peter wedi'i alw i garfan hyfforddi WorldSkills UK
Mae'r cyn-fyfyriwr o Goleg Menai yn gweithio ar greu rhannau ar gyfer labordai ffiseg gronynnau arloesol ar hyn o bryd ac mae'n bosib y bydd yn cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai yng 'Ngemau Olympaidd Sgiliau' y flwyddyn nesaf yn Shanghai
Mae cyn-fyfyriwr Coleg Menai, Peter Jenkins, wedi cael ei alw i garfan y DU sy'n paratoi ar gyfer digwyddiad WorldSkills y flwyddyn nesaf yn Tsieina.
Mae Peter yn brentis peirianneg gyda'r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) yn Labordy Daresbury, sy'n enwog yn fyd-eang am ei ymchwil i ffiseg gronynnau arloesol.
Mae'n creu rhannau ar gyfer prosiectau ymchwil rhyngwladol fel y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr a'r Arbrawf Niwtrino Tanddaearol Dwfn (DUNE), y mae gwyddonwyr yn eu defnyddio i astudio tarddiad y bydysawd ac ymddygiad gronynnau isatomig.
Cyn dechrau ei brentisiaeth, dilynodd Peter gwrs Lefel 3 Peirianneg Fecanyddol ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.
Bydd Peter, sy'n 20 oed ac yn dod o Gaergybi yn cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai ar y llwyfan rhyngwladol os bydd yn llwyddo i gyrraedd Shanghai 2026, ar ôl cael ei alw i'r garfan hyfforddi ar gyfer Integreiddio Systemau Robotig.
“Dw i'n hapus iawn ac yn gyffrous iawn o fod wedi cael fy ngalw i garfan WorldSkills UK," meddai Peter. Cymhwysodd Peter ar gyfer rownd terfynol WorldSkills UK y llynedd pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai.
Dros y misoedd nesaf, bydd Peter yn cystadlu i ennill ei le i gynrychioli'r DU yn y categori Integreiddio Systemau Robotig yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau', a gynhelir ym mis Medi 2026.
Mae Peter wedi dechrau gweithio yn Labordy Daresbury yn ddiweddar, ar ôl blwyddyn gyntaf ei brentisiaeth oedd yn seiliedig ar astudio.
Mae eisoes wedi helpu i adeiladu dau 'ddirwynydd' ar gyfer DUNE. Peiriannau ydy'r rhain sy'n lapio gwifrau tenau o amgylch ffrâm yn fanwl gywir, gan greu rhan sy'n galluogi gwyddonwyr i ganfod gronynnau bach o'r enw 'niwtrinos'.
Bydd Peter hefyd yn creu rhannau ar gyfer y 'prosiect High-Luminosity Large Hadron Collider', dan oruchwyliaeth CERN (Y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear), a fydd yn helpu gwyddonwyr i ganfod rhagor o ddata er mwyn datgloi cyfrinachau'r bydysawd.
Dywedodd: “Mae’r brentisiaeth yn mynd yn dda iawn. Dw i wedi dysgu llawer, ac wedi gweld llawer o bethau gwahanol. Dw i'n cael llawer iawn o gyfleoedd.
Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar uwchraddio Hi-Lumi, prosiect a fydd yn gwella effeithlonrwydd y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.
Y peth mwyaf cyffrous rydw i wedi gweithio arno hyd yn hyn ydy’r weindwyr DUNE - dw i wedi helpu i adeiladu dau ddirwynydd sy’n llywio gwifren copr-berylliwm yn dynn iawn o amgylch y fframiau, ac yn gweithio 24/7 gobeithio.
Mae Peter yn ddiolchgar i Goleg Menai, ac yn enwedig i’r darlithwyr Bryn Jones a Mac Jones, am feithrin ei ddiddordeb mewn peirianneg a'i gynorthwyo i ddod o hyd i'w lwybr gyrfa.
Dywedodd: "Mi ges i lawer o brofiad a gwybodaeth o Goleg Menai. Mi wnaeth fy nhiwtoriaid fy helpu i sylweddoli fy mod i eisiau dilyn llwybr peirianneg, ac mai llwybr peirianneg fecanyddol yn hytrach na pheirianneg electronig oedd fy llwybr i.
Mi wnaethon nhw fy nghefnogi’n bob cam o'r ffordd a rhoi cymaint o gyfleoedd a phrofiadau i mi yn ystod yr amser byr roeddwn i yn y coleg. Er nad ydw i'n fyfyriwr mwyach, dw i'n dal mewn cysylltiad â Bryn a Mac, ac maen nhw'n dal i ofyn amdanaf ac eisiau fy nghefnogi ar fy nhaith. Mae wedi bod yn anhygoel.”
Mae Peter yn ymuno ag Evan Klimaszewski (Electroneg) o Goleg Menai, yng ngharfan hyfforddi WorldSkills UK, ynghyd â Yuliia Batrak (Gwasanaeth Bwytai) o Goleg Llandrillo a phrentis Grŵp Llandrillo Menai / RWE, Madeleine Warburton (Ynni Adnewyddadwy).
Gyda lle yn unig ar gael ym mhob sgil, ac mi fydd cryn gystadlu dros y flwyddyn nesaf i gadw lle ar yr awyren i Shanghai.
- WorldSkills Shanghai 2026 (Medi 22-27) fydd y 48fed tro i gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf y byd gael ei chynnal. Mae WorldSkills UK, mewn partneriaeth â Pearson, wedi cyhoeddi carfan o fwy nag 80 o bobl ifanc i ymuno â'i rhaglen hyfforddi ddwys 18 mis o hyd, gyda'r nod o gael eu dewis ar gyfer Tîm y DU. Gweler y garfan lawn yma.
Hoffech chi ddysgu rhagor am y cyffro sydd ynghlwm wrth beirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yma.