Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Erin yn cael haf 'anhygoel' yn gweithio ar gychod hwylio ym Môr y Canoldir

Ar ôl gorffen ei diploma lletygarwch yng Ngholeg Llandrillo, mae Erin Price wedi bod yn teithio trwy dde Ffrainc

Mae Erin Price, myfyrwraig sydd newydd orffen ei chwrs yng Ngholeg Llandrillo, yn cael y “profiad gorau erioed” yn gweithio ar gychod hwylio ym Môr y Canoldir.

Mae Erin wedi bod yn teithio ar ei phen ei hun yn ne Ffrainc ers cwblhau ei Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos yr haf hwn.

Mae'r ferch 18 oed o Ddyserth wedi bod yn ariannu ei theithio drwy 'gerdded yn y dociau' - mynd â'i CV at y rhai ar y cychod hwylio bob dydd i chwilio am waith.

Mae hi wedi bod yn gweithio ar gwch hwylio 28 metr fel yr unig stiward - yn gyfrifol am waith tŷ a gwasanaethau i westeion - ac mae'n gobeithio dod o hyd i waith mwy parhaol ar y cychod.

Dywedodd Erin: “Hyd yma mae fy haf yn Ffrainc yn mynd yn rhagorol. Mae teithio ar fy mhen fy hun drwy dde Ffrainc wedi bod y profiad gorau erioed i mi. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl newydd ac wedi gwneud pethau nad oeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i'n eu gwneud.

“Bob dydd mae’n rhaid i mi ddeffro’n gynnar i gerdded ar hyd y dociau yn y gobaith o ddod o hyd i waith am y diwrnod, neu hyd yn oed swydd fwy parhaol. Cerdded y dociau yw lle rydych chi'n mynd i fyny ac i lawr dociau niferus de Ffrainc gyda'ch CV yn eich llaw ac yn gofyn am waith dydd. Gall fod yn anodd ar adegau, ond mae'n ffordd hwyliog o gyflawni eich camau dyddiol, cynyddu eich hyder a siarad â llawer o bobl.

“Yn yr wythnos gyntaf llwyddais i gael fy swydd gyntaf ar gwch hwylio 28 metr fel stiward unigol, yn trefnu a glanhau ar ran nifer o westeion. Cefais y cyfle hefyd i ddathlu'r 4ydd o Orffennaf gyda rhai merched y gwnes eu cyfarfod yn Cannes, gyda'r sioe tân gwyllt orau i mi ei gweld erioed.”

Mae Erin wedi bod yn Ffrainc ers mis, yn gweithio yn Cannes yn bennaf, ond hefyd mewn fila yn Grasse gerllaw. Mae hi wedi ymweld â Juan-les-Pins, Antibes, Nice a Cap-d'Ail hefyd.

Mae hi wedi mwynhau'r rhwydweithio sydd ynghlwm â hwylio - a all fod yn unrhyw beth o ddigwyddiadau wedi'u trefnu i glybiau rhedeg, neu fynd i fariau lleol i gwrdd â phobl yn y diwydiant.

“Un o fy hoff bethau am y diwydiant hwylio yw’r rhwydweithio, lle rydych chi’n cwrdd â hwylwyr profiadol neu bobl sy’n newydd i’r diwydiant, fel fi,” meddai. “Dyma sut y gwnes i gael fy ngwaith dydd cyntaf. Dyma'r ffordd orau o gwrdd â phobl newydd a nhw yw'r bobl fwyaf cefnogol y byddwch chi'n eu cyfarfod.”

Gorffennodd Erin ei thrydedd flwyddyn a'i blwyddyn olaf yng Ngholeg Llandrillo yn ddiweddar, ac mae'n gobeithio dod o hyd i waith fel cogydd ar gwch hwylio foethus.

Dywedodd: “Mae astudio yn y coleg wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i rŵan a fedra' i ddim aros i weld beth sydd gan y dyfodol ym myd hwylio i’w gynnig.”

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Mae maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau llawn a rhan-amser o Lefel 1 i Raddau Anrhydedd, yn ogystal â phrentisiaethau, NVQs a hyfforddiant wedi'i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date