Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Celfyddydau Perfformio yn Theatr Fach Y Rhyl

Cyflwynodd myfyrwyr cyrsiau Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio y sioe gerdd 'Grease' dros y penwythnos yn Theatr Fach Y Rhyl.

Roedd y myfyrwyr yn ymwneud â phob agwedd o'r cynhyrchiad a berfformiwyd yn ystod tair noson, o'r gwaith goleuo a sain i rolau technegol eraill, ynghyd â'r gwaith o hyrwyddo'r sioe ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymunodd myfyriwr o'r adran gerdd â'r myfyrwyr hefyd i chwarae'r gitâr yn ystod y caneuon.

⁠Dywedodd Jon Crowther , Darlithydd Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Llandrillo:

"Dw i'n falch iawn o lwyddiant yn sioe gerdd, mae'r myfyrwyr wedi gweithio'n galed iawn. Diolch i bawb a ddaeth i weld y sioe ac i'n cefnogi"

"Mae'r cynhyrchiad hwn yn un o'r nifer o gynyrchiadau mae ein myfyrwyr Celfyddydau Perfformio wedi ymwneud â nhw yn ystod eu cyfnod yn y coleg. Rydym yn falch iawn o lwyfannu sioeau proffesiynol gyda'n myfyrwyr, er mwyn cynnig blas o berfformio mewn theatr go iawn iddynt, o flaen cynulleidfa fyw"

"Hoffwn ddiolch yn fawr i adran Cerbydau Modur y coleg hefyd am ddylunio ac adeiladu'r car a ddefnyddiwyd ar y llwyfan"

Meddai Kiera Butterworth, myfyriwr o'r adran Celfyddydau Perfformio, "mae llwyfannu sioe gerdd fel hon wedi rhoi cipolwg i ni o'r diwydiant sioeau cerdd a'r holl agweddau perthnasol fel cynhyrchu, a'r ymroddiad sydd eich angen i lwyddo, ac mae wedi datblygu fy hyder.

Ychwanegodd Corey Dodd, sydd yn astudio Celfyddydau Perfformio hefyd, "Dyma sioe wahanol iawn i'r hyn dw i wedi'i wneud yn y gorffennol, mae wedi rhoi profiad da i mi o faes anghyfarwydd ac wedi ymestyn fy sgiliau ac ychwanegu at fy mhrofiad."

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Celfyddydau Perfformio yn y coleg, cliciwch yma.